Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gwneud gwahaniaeth a chael traweffaith gadarnhaol ar gyrff cyhoeddus Cymru.

18 June 2024
  • Cyn dod i weithio i Archwilio Cymru fel Uwch Archwilydd, roeddwn wedi gweithio i'r un corff ers deng mlynedd.

    • Roeddwn yn hapus iawn yno ond yn barod am her newydd gan fod fy mhlant i gyd wedi cychwyn ysgol. Cefais argraff gadarnhaol o'r sefydliad yn ystod fy nghyfweliad gan bod fy narpar gydweithwyr mor groesawus. Derbynais y cynnig, a blwyddyn yn ddiweddarach cefais gyfle i fynd ar secondiad i rôl Archwilydd Arweiniol. 

      Mae'r gwaith archwilio perfformaid yn hynod amrywiol ac rydw i'n falch o allu cyfrannu at roi sicrwydd i bobl Cymru ynghylch gwariant arian cyhoeddus a threfniadau’r cyrff a archwilir. Mae canfod arferion effeithiol hefyd yn rhan o'r gwaith er mwyn ysbrydoli a grymuso cyrff i wella yn barhaus. Strwythur prosiect sydd i'r gwaith archwilio perfformaid a hynny o fewn canllaw a safonau rhyngwladol cydnabyddedig i sicrhau ansawdd uchel i'n gwaith. Mae fy nghefndir mewn cydymffurfiaeth, ymchwiliadau, rheoli prosiect a llywodraethiant yn ddefnyddiol iawn ac rydw i wedi ennill profiadau gwerthfawr a sgiliau trosglwyddadwy pellach wrth archwilio. 

      Er bod lefel uchel o ymddiriedaeth ynnom i gyflawni ein gwaith yn annibynnol, mae cefnogaeth cyson a chymorth parod ar gael gan gydweithwyr ar draws y sefydliad. Mae'r dull hyfforddi a ddefnyddir yma yn golygu fy mod yn dysgu'n barhaus. Mae llesiant cydweithwyr yn neilltuol bwysig i Archwilio Cymru a amlygir gan yr amodau a thelerau hael. Dwi'n gweld sut mae cyfraniadau unigol cydweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi gan reolwyr yma ac mae'r gefnogaeth yno i ddatblygu unrhyw fylchau yn ein sgiliau neu brofiadau.  

      Uchafbwynt fy nghyfnod yn Archwilio Cymru hyd yn hyn yw pan ddyfynnodd Prif Weinidog Cymru o adroddiad archwiliad perfformiad roeddwn wedi gweithio arno yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd. Rwy'n hyderus y daw rhagor o gyfleoedd i gael traweffaith cadarnhaol ar gyrff cyhoeddus Cymreig drwy weithio i Archwilio Cymru.     

      Ynglŷn â'r awdur

      Picture of Lora

      Mae Lora Gwawr Williams yn Uwch Archwilydd Perfformiad gydag Archwilio Cymru. Ymunodd yn 2023 yn dilyn gyrfa yn y sector gyhoeddus a blwyddyn gyda chwmni cydweithredol ers graddio mewn Astudiaethau Cymru Fodern. Ar hyn o bryd mae ar secondiad fel Archwilydd Arweiniol efo'r tîm Datblygu ac Arweiniad Archwiliadau.