Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Y Gyfnewidfa Arfer Da: Sut y mae gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl sy’n profi digartrefedd neu’n wynebu risg o ddigartrefedd

24 Hydref 2024
  • Mae Diwrnod Digartrefedd y Byd yn cael ei nodi bob blwyddyn ar 10 Hydref i dynnu sylw at anghenion pobl sy’n profi digartrefedd. Prosiect atal digartrefedd sy’n defnyddio rhwydwaith o wirfoddolwyr i gynorthwyo pobl sy’n profi digartrefedd, neu’n wynebu risg o ddigartrefedd, i ganfod a chynnal eu tenantiaethau a sefydlu cartref yw Citadel.

    Cefndir 


    Yn dilyn cau llochesi nos yng Nghymru ar ddechrau’r pandemig coronafeirws, bu i Housing Justice Cymru adnabod y buddion a oedd yn deillio o ddefnyddio gwirfoddolwyr yn y gymuned er mwyn cynorthwyo y rhai sy’n profi digartrefedd i symud ymlaen o lety argyfwng tymor byr i sefydlu cartref tymor hir. A dyna pryd ffurfiwyd Citadel!
    Ers 2020 mae Citadel wedi tyfu a bellach maent yn cefnogi pobl sy’n profi digartrefedd ar draws Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Wrecsam, ac yn sgîl llwyddiant y prosiect yng Nghymru, bydd Housing Justice England yn cyflwyno’r prosiect o fis Hydref 2024. 


    Sefydlwyd Citadel yn wreiddiol i gefnogi gwesteion wedi iddynt symud ymlaen o Lochesi Nos HJC. Cafodd yr angen am gymorth pellach, yn ystod y misoedd cychwynnol wrth gael tenantiaeth, ei amlygu gan y rhai yr ydym yn eu cefnogi sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd.


    Mae’r straen a trawma sy’n deillio o brofi digartrefedd yn aros gyda phobl am gyfnod hir wedi iddo ddigwydd ac yn ei wneud yn fwy tebygol o ddychwelyd. Yn ôl ymchwil a wnaed gan Lywodraeth Cymru, roedd 90% o’r bobl a oedd wedi profi digartrefedd yn dal i boeni am eu sefyllfa o ran tai, er fod nifer (dros 50% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg) o’r unigolion hynny bellach mewn tai sefydlog. Hefyd, mewn arolwg a gynhaliwyd ganddynt dywedodd 82% o gyn-westeion Housing Justice Cymru fod arnynt eisiau cymorth pellach, sy’n dangos bod angen enfawr am gymorth parhaus er gwaethaf y gwasanaethau sy’n bodoli eisoes.


    Roedd adborth pellach gan bobl a oedd yn profi digartrefedd yn dangos bod angen mwy o gymorth wedi’i deilwra, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a’r ‘hyn sy’n bwysig’ iddynt: 


    “Mae pawb yn unigolyn. Nid oes digon o wasanaethau sy’n eich trin fel unigolyn”. 


    Mae model Citadel wedi cael ei ddylunio trwy ystyried yr holl adborth, ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd a chynnwys y bobl sy’n derbyn cymorth yn y broses o newid gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pob unigolyn.


    Model Citadel


    Mae Cydlynwyr Citadel yn arwain tîm o wirfoddolwyr mewn ardal leol, gan eu cynorthwyo i ddatblygu'r sgiliau a’r cydnerthedd ar gyfer eu rôl a chan hefyd sicrhau bod y bobl a gefnogir yn cael cymorth wedi’i deilwra sy’n diwallu eu hanghenion unigol.


    Unwaith y mae gwirfoddolwyr wedi cael eu recriwtio, eu hyfforddi ac wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), maent yn cael eu paru â rhywun sydd wedi, neu sydd yn profi digartrefedd ac wedi eu cyfeirio at Citadel gan yr Awdurdod Lleol. 


    Mae gwirfoddolwyr yn defnyddio’u profiadau bywyd a sgiliau amrywiol i gefnogi unigolion sy’n profi digartrefedd neu sy’n wynebu risg o ddigartrefedd, gan gynnig cwmnïaeth, cynhorthwy ymarferol megis tasgau’r cartref neu gyllidebu, a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ar y cyd yn y gymuned. 


    Mae pobl a gyfeirir at Citadel yn cael eu grymuso i ddiffinio eu llwybrau eu hunain tuag at sefydlogrwydd o ran tai. Gyda chymorth gan wirfoddolwyr wedi’u neilltuo i’r rôl a chydlynwyr y prosiect, trwy flaenoriaethu nodau a dewisiadau pob unigolyn, mae Citadel yn meithrin dinasyddiaeth weithredol ac ymgysylltiad cymunedol. 

    Mae gwirfoddolwyr yn helpu i gefnogi gydag:

     

    • Ailgartrefu cyflym (dod o hyd i gartref)
    • Cymorth emosiynol a gwrando
    • Dod o hyd i eitemau’r cartref ac addurno
    • Cyllidebu
    • Cysylltu â’r gymuned
    • Cynnal tenantiaeth
       
    Delwedd o ystafell wag ar y chwith, ac ar y dde delwedd o sut mae'r ystafell wedi cael ei thrawsnewid gyda dodrefn ac wedi'i hailaddurno.


    Beth yw manteision y model a arweinir gan wirfoddolwyr?

    Mae’r model a arweinir gan wirfoddolwyr;

     

    • Yn hybu dinasyddiaeth weithredol: Cysylltiadau â grwpiau cymunedol, integreiddio cymunedol, adfywio a gweithrediad cymunedol, cyfraniad cymunedol ac ymdeimlad o berthyn  
    • Yn manteisio ar wybodaeth leol: Mae gan wirfoddolwyr wybodaeth leol a gwybodaeth gymunedol werthfawr, gan wella’r cymorth a roddir i gyfranogwyr. 
    • Yn ei gwneud yn bosibl ymyrryd yn gynnar
    • Yn cynnig arddulliau cefnogi unigoledig: Mae gwirfoddolwyr yn cerdded ochr yn ochr ag unigolyn, gan gynnig cymorth wedi’i bersonoli ac anogaeth sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion a nodau unigryw 
    • Yn cynnig hyblygrwydd o ran sut a ble y rhoddir cymorth: Mae gwirfoddolwyr yn creu amgylcheddau lle croesewir gonestrwydd ynghylch dyheadau, heriau a rhwystrau, gan feithrin awyrgylch cefnogol ar gyfer twf a datblygu. 
    • Yn pontio bylchau mewn gwasanaethau digartrefedd traddodiadol 


    Effaith yng Nghymru 

     

    • 90% o bobl a gynorthwywyd yn parhau yn eu tenantiaeth wedi 12 mis.
    • Cyfradd ymgysylltu o 97% ymhlith pobl a gefnogir (ar gyfartaledd bob chwarter)
    • 31 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal ar gyfer gwirfoddolwyr a phobl a gefnogir 
    • Oddeutu 2448 o gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb a wnaeth hwyluso’r canlynol;
      • cynorthwyo pobl i gynnal eu tenantiaeth ac aros yn eu cartref
      • cynorthwyo pobl i gael mynediad at gartref saff, diogel
    • Cafodd 94% o bobl a gynorthwywyd i gael cartref eu cefnogi hefyd gyda chymorth ymarferol, megis tasgau’r cartref, cael gafael ar ddodrefn a charpedi. 

    Y manteision i wasanaethau statudol

    • Mae pobl yn cronni gwybodaeth am y gwasanaethau sy’n bodoli
    • Mae pobl yn datblygu’r gallu i ddod o hyd i’r ffordd eu hunain ac yn cael eu dargyfeirio oddi wrth wasanaethau statudol oni bai eu bod yn gwbl hanfodol
    • Ceir mynediad at wasanaethau ar adeg ataliol/ gynnar yn hytrach nag ar ôl i’r sefyllfa droi’n argyfwng 
    • Nid yw pobl yn ceisio mynediad at wasanaethau oherwydd dibyniaeth/ unigrwydd. 


    Adborth gan unigolion a gefnogwyd gan Citadel

    Mae 87% o’r bobl a gefnogwyd yn teimlo bod ganddynt sgiliau gwell i fyw’n annibynnol

    “Nid ydynt yn ei wneud am eu bod yn cael tâl; maent yn ei wneud am bod arnynt eisiau ei wneud ac mewn rolau â thâl gall gweithwyr cymorth newid yn rheolaidd”

    “Rwy’n gwybod bod arnynt eisiau rhoi rhywbeth i mi y gallaf fod yn falch ohono, i edrych arno a dweud ‘Rwyf wedi bod trwy’r holl bethau hyn yn fy mywyd ond rwy’n haeddu bod â’r lle yma a fy un i yw hwn” 

    I gael rhagor o wybodaeth am Citadel a gwaith Housing Justice, gallwch fynd at eu gwefan.