Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyfnewidfa Arfer Da: Y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant

12 Tachwedd 2024
  • Sut mae Cyngor Celfyddydau Cymru a'r GIG yn cydweithio i wella llesiant.

    • https://www.youtube.com/embed/2ONgmC5O5ak
    • Mae grym y celfyddydau i gefnogi iechyd a llesiant wedi ei gydnabod a’i dystiolaethu yn rhyngwladol.  

      Yma yng Nghymru, ers 2017, mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn y GIG yng Nghymru wedi cydweithio er mwyn hybu’r celfyddydau, iechyd a llesiant ar draws y wlad gyda’r bwriad o wella bywydau a lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal.  

      Trwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a dorrodd dir newydd, sydd bellach yn ei seithfed blwyddyn, maent yn cydweithio gyda phartneriaid celfyddydau ac iechyd er mwyn hybu’r buddion all ddeillio o’r celfyddydau a mewnosod cynlluniau celfyddydau ac iechyd ar draws y GIG yng Nghymru.  

      Mae’r Memorandwm wedi rhoi hwb ar gyfer partneriaeth gynaliadwy a model yng Nghymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae ymagwedd strategol y sectorau wedi ei gydnabod fel enghraifft o arfer da gan Sefydliad Baring pa fu iddynt gyhoeddi Creatively Minded and the NHS [dolen yn agor mewn tudalen wahanol] a bu i astudiaeth ryngwladol gan Lancet Public Health [agor mewn ffenest wahanol] ddatgan mai “y memorandwm hwn yw un o’r ymrwymiadau mwyaf pendant yr ydym wedi’i ganfod, o ran y dull croestoriadol a’r buddsoddiad a’r gweithredu penodol”. 

      Mae rhaglen cynyddu adnoddau celfyddydau ac iechyd wedi cyflwyno a datblygu rolau cydlynwyr celf ac iechyd ym mhob un o fyrddau iechyd Cymru, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Bu i werthusiad o’r rhaglen yma a gynhaliwyd yn 2022[agor mewn ffenest newydd] ganfod fod rolau celf ac iechyd o fewn y GIG yn cyfrannu at effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol cleifion a’r boblogaeth ehangach, ac ar draws yr ystod o swyddogaethau sy’n ymwneud ag iechyd – atal, lliniaru, trin a gwella.  

      Mae Cronfa Loteri y Celfyddydau, Iechyd a Lles sy’n cael ei gyflawni gan Gyngor y Celfyddydau yn cefnogi partneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol y wlad; iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector; arlunwyr ac ymarferwyr unigol; ac awdurdodau lleol er mwyn cynnal amrywiaeth o gynlluniau a rhaglenni sydd yn ymateb i heriau iechyd, gyda rhai esiamplau diweddar yn cynnwys cynllun canu ac anadlu er mwyn cefnogi pobl sydd yn gwella o gael COVID hir a chyflyrau eraill, yn ogystal a sesiynau barddoni ar gyfer pobl ifanc sydd yn byw â chlefyd siwgr. 

      Yn y cyfamser mae rhaglen tair blynedd Crefydd a Chrebwyll, wedi ei gefnogi gan Cyngor y Celfyddydau a Sefydliad Baring, wedi galluogi y 7 bwrdd iechyd yng Nghymru i ddatblygu prosiectau creadigol gydag artistiaid a sefydliadau celfyddydol sydd wedi ymateb i flaenoriaethau iechyd meddwl. 

      Cwtsh Creadigol 

      Mae gwaith celfyddydau ac iechyd Cymru yn arwain at fuddion i staff GIG a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’u cleifion. 

      Er enghraifft, sefydlwyd gwefan ddwyieithog y Cwtsh Creadigol, a lansiwyd yn 2022 fel diolch gan sector celfyddydau Cymru i staff GIG a gofal cymdeithasol, gan gydnabod yr angen ei warchod eu llesiant hwy yn ogystal a llesiant eu cleifion.  

      Wedi eu datblygu mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru, ‘roedd yn gartref i dros 70 adnodd llesiant creadigol; o jyglo a sesiynau dawns i farddoni a cherdded mewn natur, oll wedi eu creu er mwyn helpu staff iechyd a gofal prysur i ymlacio. Mae’r adnoddau yma bellach wedi eu hymgorffori mewn i raglen waith Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan eu rhannu i bawb. Gallwch gael mynediad at yr adnoddau ar unrhyw bryd trwy fynd i wefan Hapus.Wales

      Am fwy o wybodaeth am waith celfyddydau ac iechyd Cymru, ewch i wefan Cyngor y Celfyddydau.