Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyfnewidfa Arfer Da: Prosiect Inspire Sir y Fflint a Wrecsam

06 Tachwedd 2024
  • Mae prosiect Inspire: Gwaith Ieuenctid mewn Ysbyty yn cefnogi pobl ifanc 11-18 oed sy'n ymddwyn mewn ffordd hunan-niweidiol, neu'n cael meddyliau am hunan-niweidio neu hunanladdiad sy'n byw yn Wrecsam neu Sir y Fflint.

    • Cefndir 

      Mae Inspire yn gweithredu ar lefel haen 2 mewn partneriaeth â nifer o asiantaethau a gweithwyr proffesiynol i ddiwallu anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd. Trwy gynnwys y bobl ifanc a, lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, eu teuluoedd yn llawn, anogir agweddau, ymddygiad a dyheadau cadarnhaol sy'n eu helpu i ddatblygu gwytnwch i oresgyn yr heriau y gallant fod yn eu hwynebu nawr neu y gallent eu hwynebu yn y dyfodol, gan wella canlyniadau.

      Mae Inspire yn dîm amlddisgyblaethol o weithwyr ieuenctid a seicolegwyr cynorthwyol sy'n gweithio mewn ffordd gyfannol ochr yn ochr â phob person ifanc i'w helpu i gyflawni ei dargedau. Nod Inspire yw grymuso a hybu annibyniaeth a hyder pob person ifanc, a chynyddu strategaethau ymdopi cadarnhaol a gwytnwch. Nod Inspire yw mynd i'r afael â'r rhesymau pam mae person ifanc yn hunan-niweidio yn hytrach na delio â'r ymddygiad canlyniadol yn unig. 

      Gall unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol wneud atgyfeiriadau e.e. CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed), nyrs ysgol, meddygon teulu, staff ysbyty ac ati. Rhwng 1 Gorffennaf 2023 a 30 Mehefin 2024, derbyniodd Inspire 181 o atgyfeiriadau am gymorth un-i-un i bobl ifanc yn Wrecsam ac 83 o atgyfeiriadau ar gyfer pobl ifanc yn Sir y Fflint. 

      Mae gwaith un-i-un yn cynnwys tua 8 sesiwn bwrpasol o ymgysylltu gwirfoddol ar gyfer yr unigolyn mewn lleoliadau o ddewis y person ifanc, gan ganolbwyntio ar yr hyn yr hoffai pobl ifanc ei gyflawni a'r hyn y maent yn teimlo y byddai'n eu helpu ar yr adeg honno. 

      Gall cefnogaeth gynnwys; 

      • cyflwyno / cynyddu gweithgareddau cymdeithasol
      • gweithio ar: 
        • meithrin hyder a hunan-barch
        • strategaethau ymdopi
        • dewisiadau eraill yn lle hunan-niweidio
        • hylendid cysgu
        • perthnasoedd
        • pendantrwydd
        • dicter
        • amlygiad fesul tipyn, er enghraifft, i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a meysydd eraill a allai gynorthwyo'r person ifanc. 

      Mae'r tîm hefyd yn darparu anogaeth a chefnogaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd ymgysylltu â gwasanaethau cyffredinol neu gael mynediad atynt gyda’r nod o sicrhau nad oes angen uwchgyfeirio at wasanaethau statudol yn y dyfodol. Cwblheir atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol hefyd yn ôl yr angen.

      Trwy weithio gyda phobl ifanc tan eu pen-blwydd yn 19 oed, mae hyn yn caniatáu i Inspire gefnogi pobl ifanc wrth iddynt drosglwyddo i wasanaethau oedolion, a hefyd wrth bontio o'r ysgol neu'r coleg i waith neu addysg uwch.

      Cynigir gweithgareddau dargyfeirio i bobl ifanc y mae gweithgareddau grŵp yn briodol ar eu cyfer ac a fyddai'n cael budd o weithgareddau grŵp. Maent yn gyfle i'r bobl ifanc leihau ynysigrwydd cymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder a'u hunan-barch mewn amgylchedd diogel gyda chefnogaeth staff yn ôl yr angen. Mae pobl ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddai ganddynt y cyfle na'r hyder i'w gwneud fel arall. Gall pobl ifanc ddefnyddio’r gweithgareddau hyn pan fyddant yn cael cefnogaeth gennym ac ar ôl i’r gefnogaeth honno orffen, cyhyd â'u bod o fewn ystod oedran Inspire.

      Mae Inspire yn gwneud ymweliadau dyddiol â phob person ifanc 11-18 oed ar wardiau yn Ysbyty Maelor Wrecsam, beth bynnag fo'i reswm. Mae Inspire yn cynnig rhoi benthyg adnoddau fel DVDs, PSPs a DSs i fynd â sylw’r bobl ifanc ac maent hefyd yn darparu pecynnau gweithgareddau a phecynnau gwybodaeth (taflenni â gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau a gwasanaethau i bobl ifanc y gallant gael gafael arnynt yn eu hardal). Gall Inspire hefyd dreulio amser gyda chleifion os bydd angen. Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, ymwelodd Inspire â 280 o bobl ifanc ar wardiau ysbyty. 
       
      Mae Inspire yn cydnabod manteision ymyrraeth gynnar ac maent yn darparu sesiynau addysg anffurfiol i ysgolion, clybiau ieuenctid a grwpiau eraill ar draws ardal Wrecsam a Sir y Fflint. Mae'r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar bynciau fel iechyd a lles emosiynol, straen arholiadau, a delwedd y corff, ond gallant gael eu teilwra hefyd i ddiwallu anghenion grŵp penodol ar gais. Gall Inspire hefyd ddarparu grwpiau llai wedi'u targedu lle nodir bod angen. Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 cyflwynodd Inspire 137 o sesiynau i 2,749 o bobl ifanc. 

      Effaith

      Ym mis Chwefror 2021, cynhaliwyd gwerthusiad o'r prosiect. Ar draws data meintiol ac ansoddol sy'n llywio'r gwerthusiad, mae barn gyson bod Inspire yn cyfrannu at ganlyniadau sylweddol i bobl ifanc. Mae'r canlyniadau allweddol yn cynnwys:

      • Gwella hyder a hunan-barch pobl ifanc. 
      • Lleihau achosion o hunan-niweidio a derbyniadau i'r oherwydd hunan-niweidio. 
      • Rhoi gwybodaeth i bobl ifanc ar sut i reoli risg. 
      • Ymgysylltu. Er enghraifft, mewn gweithgareddau grŵp, gydag addysg a chyflogaeth a rhyngweithio â gwasanaethau allweddol. 
      • Goresgyn ysfa a phryderon ffobig sy'n cyfyngu ar weithrediad a chynnydd o ddydd i ddydd. 
      • Rheoli emosiynau’n well a chael gwell perthnasoedd. Er enghraifft, gyda'r teulu. Ar gyfer y rhan llai o'r llwyth achosion sy'n cynnwys pobl ifanc sydd hefyd ag anghenion camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau a hanes o ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddu, mae pobl ifanc hefyd yn gweithredu newidiadau cadarnhaol yn bennaf i leihau'r ymddygiadau problemus hyn. Maent yn dweud bod hyn oherwydd eu bod wedi ymgysylltu ag Inspire. 

      O ganlyniad i'r effeithiau cadarnhaol hyn, mae dadansoddiad costio ceidwadol cryf yn awgrymu bod Inspire yn darparu enillion cadarnhaol ar fuddsoddiad, gyda £1.87 mewn arbedion cyllidol uniongyrchol am bob £1 sy'n cael ei gwario. Mae cafeatau’n gysylltiedig â’r math hwn o ddadansoddiad, ond mae hyn yn rhoi syniad o’r effaith ar arbedion yn y sector cyhoeddus.

      Beth ddywedodd pobl ifanc am y prosiect 

      “Roeddwn i mewn lle drwg ar y dechrau ac roeddwn i eisiau rhoi diwedd ar y cyfan. Trwy weithio gydag Inspire, fe wnaethon nhw fy helpu i sylweddoli bod yna dda mewn bywyd”.

      “Diolch yn fawr iawn am y bopeth a wnaethoch i fi (gweithiwr) ac alla i ddim credu faint rydw i wedi tyfu ers i fi gwrdd â chi, o deimlo mor ynysig a bron â rhoi i fyny i allu mynd allan gyda hyder a gallu teimlo'n llawer hapusach a gwneud i mi fod eisiau mynd allan mwy a gwneud mwy o bethau hefyd. Pe baech chi wedi dweud hynna wrtha’ i 6 mis yn ôl, fyddwn i ddim wedi credu bod hynna i gyd yn bosibl, a diolch yn fawr iawn am fy helpu i reoli fy emosiynau, fy helpu i wybod beth i'w wneud os bydda’ i’n cael pwl o banig, mae hynny wedi fy helpu cymaint. Roedd mynd allan o'r tŷ am awr fach i siarad am fy mhroblemau a chael siocled poeth yn gwneud i mi deimlo’n llawer hapusach, a chyn gynted ag y byddai’r sesiwn yn dod i ben, byddwn i bob amser yn edrych ymlaen at ei wneud eto. Diolch yn fawr iawn (gweithiwr), mae’r sesiynau hyn wedi bod yn wych”.
       
      “Cyn Inspire, doeddwn i ddim yn gallu gweld y golau, roedd popeth yn dywyll ac yna fe ddangosodd Inspire y golau i mi ac roeddwn i'n teimlo'n well”.

      “Fe wnaeth Inspire achub fy mywyd”

      “Fe wnaethon nhw fy helpu i ymdopi â'r ysgol, i siarad ac i deimlo'n llawer mwy cadarnhaol am lawer o bethau.”

      “Roedd y ffaith eu bod nhw’n gallu dod i’m cartref yn wych oherwydd, rhai dyddiau, doeddwn i ddim yn teimlo fel mynd allan. Roedd hi'n hawdd iawn siarad ag Inspire.”

      I gael gwybod mwy am y prosiect, cysylltwch â inspire@wrexham.gov.uk.