Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ffocws allweddol ein hadolygiad wedi bod ar ystyried a yw ymagwedd y Bwrdd Iechyd at gynllunio’r gweithlu’n ei helpu i ymdrin yn effeithiol â heriau o ran gweithlu’r GIG yn awr ac yn y dyfodol.
Mae ffocws allweddol ein hadolygiad wedi bod ar ystyried a yw ymagwedd y Bwrdd Iechyd at gynllunio’r gweithlu’n ei helpu i ymdrin yn effeithiol â heriau o ran gweithlu’r GIG yn awr ac yn y dyfodol. Yn benodol, fe wnaethom fwrw golwg ar ymagwedd strategol y Bwrdd Iechyd at gynllunio’r gweithlu, camau gweithredol i reoli heriau o ran y gweithlu yn awr ac yn y dyfodol, a threfniadau monitro a goruchwylio. Mae trefniadau gweithredol i reoli’r gweithlu, megis cylchrestru dyletswyddau staff/nyrsys a chynllunio swyddi meddygon ymgynghorol y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn.
Ar y cyfan, canfuom fod gan y Bwrdd Iechyd set glir o flaenoriaethau o ran y gweithlu yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda am ei risgiau sylweddol. Mae’n gweithio’n galed i fynd i’r afael â’i heriau uniongyrchol o ran y gweithlu ac mae ei gamau gweithredu allweddol yn cyd-fynd yn briodol â’r Cynllun Pobl a gytunwyd ganddo. Fodd bynnag, mae’r ymagwedd yn gorbwysleisio’r atebion byrdymor a gweithredol. Mae angen amlwg i ailedrych ar gynlluniau gweithredu Dyfodol Clinigol fel eu bod yn ei gwneud yn bosibl datblygu modelau’r gweithlu ar gyfer gwasanaethau sy’n fforddiadwy yn ariannol, yn effeithlon ac yn gynaliadwy.