Gwnaethom gynnal asesiad lefel uchel o'r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael ag argymhellion yn ein hadroddiad yn 2017.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwella’r ffordd y mae’n cynllunio ac yn darparu gwasanaethau radioleg. Mae sefydlu un Gyfarwyddiaeth Radioleg ym mis Ebrill 2019 wedi galluogi’r gwasanaeth i ymateb yn gyson i’r heriau y mae’n eu hwynebu.
Mae cynllunio mewn modd systematig ar gyfer y galw a chapasiti wedi darparu sylfaen glir i gyfleu’r achos dros gynyddu oriau’r gwasanaeth a’r gofynion cysylltiedig o ran gweithlu ychwanegol.
Mae arweinyddiaeth weithredol gref wedi codi proffil y Gyfarwyddiaeth Radioleg, gan sicrhau ei bod yn rhan annatod o gynllunio sefydliadol.
Fodd bynnag, nid yw’r Bwrdd a’i bwyllgorau’n trafod gwasanaethau radioleg rhyw lawer.