Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Canolbwyntiodd ein hadolygiad yn bennaf ar asesu i ba raddau y mae'r Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r argymhellion a wnaed gennym yn 2018 ar waith.
Ar y cyfan, canfuom fod y Bwrdd Iechyd yn canlyn arni â gwaith i wella cynllunio strategol, aeddfedrwydd clystyrau ac arweinyddiaeth. Fodd bynnag, mae capasiti gwasanaethau gofal sylfaenol canolog yn dal i fod dan bwysau, ac mae angen rhagor o waith i sefydlu llinell sylfaen ariannol a chryfhau ei ddull o werthuso a phrif ffrydio ffyrdd newydd o weithio. Er bod goruchwyliaeth a chraffu rhesymol ar ofal sylfaenol yng nghyfarfodydd y Bwrdd a phwyllgorau, mae angen cryfhau’r modd yr adroddir ar gyflawni cynlluniau, profiad cleifion, a pherfformiad a deilliannau gofal sylfaenol.