Canfuom fel a ganlyn: yn gyffredinol, mae trefniadau corfforaethol y Bwrdd Iechyd yn cefnogi llywodraethu da a defnydd effeithlon, effeithiol a darbodus o adnoddau yn y rhan fwyaf o feysydd.
Mae cynlluniau i ddiweddaru’r strategaeth hirdymor yn cyflwyno cyfleoedd i gryfhau’r trefniadau hyn ymhellach trwy sicrhau bod strwythurau, prosesau ac adnoddau allweddol yn cael eu cysoni’n llawn ag amcanion a risgiau strategol.