Gnaethom adolygu trefniadau'r Cyngor ar gyfer rheoli ei asedau gan ganolbwyntio ar lety swyddfa ac adeiladau y mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau i'w breswylwyr oddi wrthynt.
Ceisiodd ein hadolygiad ateb y cwestiwn: A yw dull strategol y Cyngor o'i asedau yn helpu'r Cyngor i gryfhau ei allu i drawsnewid, addasu a chynnal y gwaith o ddarparu ei wasanaethau yn y tymor byr a'r tymor hwy?
Ar y cyfan, gwelsom fod y Cyngor yn cydnabod bod gwendidau sylweddol yn ei drefniadau strategol ar gyfer rheoli ei asedau a'i fod yn edrych ar opsiynau i wneud gwelliannau, wrth wneud hynny mae angen iddo ystyried sut y gall ddefnyddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy i lunio ei waith yn y maes hwn.