Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
Cyngor Sir Powys – Adolygiad o'r Gwasanaeth Cynllunio
15 Mai 2023
Ceisiodd yr adolygiad roi sicrwydd a mewnwelediad ynghylch a yw gwasanaeth cynllunio y Cyngor yn cyflawni ei amcanion yn effeithiol ac yn gynaliadwy ac yn cyfrannu tuag at gyflawni blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor.
Mae gennym bryderon am wendidau strategol, gweithredol a diwylliannol sylfaenol Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor.
Mae'r gwendidau hyn yn llesteirio ei allu i gefnogi staff ac Aelodau yn gyson a chynaliadwy i gyflawni gwasanaeth effeithiol sy'n helpu'r Cyngor i gyflawni ei amcanion corfforaethol.