Yn rhannol, cafodd hyn ei oleuo gan brofiadau rhai cynghorau yn Lloegr, ein gwybodaeth am y sefyllfa ariannol mewn cynghorau yng Nghymru, a’r duedd gyffredinol o ran adnoddau gostyngol ar gyfer llywodraeth leol ar y cyd â galw cynyddol am rai gwasanaethau.
Mae ffocws y Cyngor ar wella’i gydnerthedd ariannol trwy fynd i’r afael â phwysau cyllidebol mewn meysydd gwasanaeth allweddol a arweinir gan y galw.