Fe wnaethom adolygu trefniadau’r Cyngor ar gyfer rheoli ei asedau a’i weithlu:
- ar gyfer asedau, roedd ein prif ffocws ar swyddfeydd ac adeiladau y mae’r Cyngor yn eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau ar gyfer ei drigolion; a
- ar gyfer y gweithlu, bu ein ffocws ar yr heriau a amlygwyd yn ystod y pandemig sydd wedi gwaethygu rhai materion hirsefydlog o ran y gweithlu.
Byddai ystyried a cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy’n fwy amlwg yn arwain at ddealltwriaeth fwy cyflawn am yr heriau a gyflwynir gan asedau adeiladau a gweithlu’r Cyngor, ac yn arwain at weledigaethau, strategaethau a chynlluniau gwell.