
-
Cyngor Sir Powys – Adolygiad Strategaeth Ddigidol
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Defnyddio gwybodaeth am…
-
Adroddiad Cydraddoldeb 2022-23
-
Adolygiad Strategaeth Ddigidol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i roi diwedd ar pobl yn cysgu allan yng Nghymru.
Hwn yw gwaith ail gam ein hadolygiad o weithio mewn partneriaeth ac mae’n dilyn ein hadroddiad yn bwrw golwg ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019.
Yn nhri mis cyntaf y pandemig fe gynorthwyodd Llywodraeth Cymru gynghorau i ailgartrefu dros 800 o bobl a oedd yn cysgu allan neu mewn perygl o ddigartrefedd.
Un o ganlyniadau annisgwyl y cyfnod clo yw bod yr arfer o gysgu allan wedi cael ei leihau’n sylweddol.
Beth wnaethom ni
Daethom i’r casgliad, er bod llawer o gyff cyhoeddus wedi bod yn gweithio gyda phobl a oedd yn cysgu allan dros y blynyddoedd diwethaf, nid oedd gwasanaethau wastad wedi’u cydgysylltu ac yn helpu pobl pan oedd angen hynny arnynt.
Mae ymateb i COVID-19 yn gyfle i gyrff cyhoeddus ddechrau mynd i’r afael â gwendidau hirsefydlog mewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth sydd wedi eu hatal rhag mynd i’r afael â chysgu allan yn y gorffennol.
Rydym wedi gwneud dau argymhelliad i gyrff cyhoeddus:
- Sicrhau defnydd deallus o ddata.
- I ddefnyddio ein hofferyn hunan-fyfyrio anghenion cymhleth i wella sut y gallant fynd i’r afael ag anghenion cymhleth ar y cyd yn y dyfodol.
Gwyliwch ein hadnodd data rhyngweithiol a wnaed gyda Power BI [agorir mewn ffenest newydd]
Related News

Related News

Data Analytics Tools
-
Cysgu Allan yng Nghymru – Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i NebMae’r adroddiad hwn yn ystyried sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i roi diwedd ar pobl yn cysgu allan yng Nghymru.Tool Published