Ar ôl cyhoeddi adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus rydym yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau cryno sy'n benodol i'r sector.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi gwybodaeth allweddol am ysgolion yng Nghymru.
Mae'n archwilio gallu, perfformiad, cyllido, ac yn amlinellu rhai o'r materion neu heriau allweddol.
Mae pandemig COVID-19 wedi cyflwyno heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus a'r bobl sy'n eu darparu. Mae ysgolion wedi wynebu pwysau enfawr gyda'r heriau o symud gwasanaethau ar-lein tra hefyd yn darparu cymorth wyneb yn wyneb i blant gweithwyr allweddol. Yna bu'n rhaid i ysgolion greu amgylchedd sy'n ddiogel rhag COVID ar gyfer dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.
Yr hyn a ganfuwyd gennym
Pan darodd y pandemig, roedd ysgolion a'r system addysg eisoes yn dangos arwyddion o straen. Roedd rhaglen ddiwygio fawr yn rhan o'r broses, roedd pwysau sylweddol ar y gweithlu ac roedd cyllid ysgolion dan bwysau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o gyllid ysgolion.
Gwelsom dri mater allweddol mewn ysgolion:
- Lliniaru effaith COVID ar ddisgyblion.
- Dilyn y rhaglen ddiwygio drwodd.
- Mynd i'r afael â heriau'r gweithlu.
Mae'r pandemig wedi amharu ar addysg cenhedlaeth o ddisgyblion; mae ei effaith yn amrywio ar gyfer disgyblion o wahanol oedrannau ac mae’n arbennig o anodd i blant sy'n agored i niwed.
Yn y dyfodol, bydd ysgolion yn wynebu'r her o gefnogi lles disgyblion a gweithio o fewn cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol a mesurau eraill i leihau'r broses drosglwyddo.