Mae’n amlwg bod Ffordd Gwynedd wedi cael effaith fawr ar y ffordd y mae Cyngor Gwynedd yn gweithio ac yn meddwl.
Mae’r Cyngor wedi trawsnewid elfennau o’r ffordd y mae’n gweithio drwy brosiectau newid a gefnogir yn gorfforaethol a rhai a sbardunwyd gan wasanaethau, yn ogystal â rhaglen hyfforddi sylweddol ar gyfer uwch-swyddogion.
Fodd bynnag, ceir rhai camsyniadau cyffredin a rhai rhwystrau sy’n llesteirio cynnydd pellach.
Mae’r materion hyn yn cyfyngu ar y ffordd y mae Ffordd Gwynedd yn ymwreiddio ac yn dod yn rhan o’r ffordd reddfol o weithio.