Pedwar o bobl yn garddio yn y gymuned
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau
24 Ionawr 2023

Mae ein hadroddiad yn edrych ar sut mae awdurdodau lleol yn creu'r amodau sydd eu hangen i helpu cymunedau i ffynnu mor annibynnol â phosib.

Mae'r adroddiad hwn yn edrych yn benodol ar y flaenoriaeth a roddir ar gydnerthedd cymunedol a hunanddibyniaeth mewn cynlluniau awdurdodau lleol, a sut mae awdurdodau lleol yn arfogi pobl i fod yn llai dibynnol ar wasanaethau awdurdodau lleol sy’n aml dan bwysau.

Dyma'r trydydd o dri adolygiad ar yr her o leddfu a mynd i'r afael â thlodi.

Nod ein hargymhellion yw ategu awdurdodau lleol i ddefnyddio ein hadroddiad i hunanwerthuso ymgysylltiad, trefniadau rheoli, perfformiad ac ymarfer cyfredol i adnabod ble y mae angen gwella. 

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn pwysleisio’r rôl bwysig y gall gymunedau ei chymryd mewn ffordd fwy gweithgar a dod yn llai dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus, ond er mwyn cynnal hyn mae angen i awdurdodau lleol newid y ffordd y maent yn gweithio.

Hoffem gael eich adborth