
-
Cyngor Sir Powys – Adolygiad Strategaeth Ddigidol
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Defnyddio gwybodaeth am…
-
Adroddiad Cydraddoldeb 2022-23
-
Adolygiad Strategaeth Ddigidol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Pwyslais allweddol ein hadolygiad fu a yw dull cynllunio gweithlu yr Ymddiriedolaeth yn ei helpu i fynd i’r afael yn effeithiol â heriau gweithlu cyfredol y GIG a’i heriau gweithlu yn y dyfodol. Yn benodol, gwnaethom edrych ar ddull strategol yr Ymddiriedo laeth ar gyfer ymdrin â’r hyn a ganlyn: cynllunio’r gweithlu,camau gweithredol i reoli heriau cyfredol a heriau yn y dyfodol, a monitro agoruchwylio trefniadau. Mae trefniadau rheoli’r gweithlu gweithredol, megis ymdrin â rhestr y staff/y rhestr nyrsio, cynllunio swyddi ymgynghorwyr a defnyddio staff asiantaeth yn weithredol, y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn.
Yn gyffredinol, canfuom fod yr Ymddiriedolaeth yn cymryd camau effeithiol i liniaru heriau gweithlu cyfredol ac i egluro ei gweledigaeth strategol tymor hwy, fodd bynnag, mae adnoddau tymor canolig i dymor hwy yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol.