E-BOST
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i: post@archwilio.cymru
POST
Cwblhewch a dychwelyd i: ffurflen ymateb.
Ymgynghoriad ar y Rhaglen Waith
Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ
Cyfrinachedd a diogelu data
Gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn unol â deddfwriaeth mynediad at wybodaeth (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn bennaf, ond hefyd deddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Os ydych am i unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech ddweud wrthym pam eich bod yn ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gennych i fod yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais am ddatgelu gwybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i'ch esboniad, ond ni allwn roi unrhyw sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo'i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol i'r Archwilydd Cyffredinol na Swyddfa Archwilio Cymru.
Bydd data personol yn cael ei brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Pan fo data o'r fath yn dod o fewn cwmpas cais am wybodaeth gan berson arall, bydd angen ystyried darpariaethau deddfwriaeth diogelu data a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth o dan yr amgylchiadau penodol. Er na ellir rhagfarnu unrhyw sefyllfa, mae hyn yn debygol o olygu bod gwybodaeth am uwch swyddogion a ffigurau cyhoeddus yn debygol o gael ei datgelu tra bod enwau a chyfeiriadau aelodau cyffredin o'r cyhoedd yn debygol o gael eu dal yn ôl.
Diolch i chi am gymryd yr amser i ymateb.
Bydd eich barn yn cael ei hystyried wrth i ni ddatblygu rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol, y bydd manylion ohoni’n cael eu nodi yn ein hadroddiadau interim a blynyddol yn y dyfodol, ein cynlluniau blynyddol a'n diweddariadau rheolaidd ar gyfer y cyrff cyhoeddus rydym yn eu harchwilio.