Ein pobl

Carwyn Rees

Carwyn Rees - o Hyfforddai Graddedig i Archwilydd Arweiniol

Fe ymunais â’r Rhaglen i Hyfforddai Graddedig yn haf 2015 fel archwilydd ariannol.

O fewn fy mlwyddyn gyntaf ces brofiad o weithio ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff llywodraeth ganolog. Rwyf wedi derbyn cefnogaeth wych gan bawb yma ym mhob agwedd o'm gwaith, arholiadau a lles. Diolch i gymorth parhaus, erbyn 2019 roeddwn wedi cwblhau fy nghontract hyfforddi ac wedi cymhwyso fel cyfrifydd siartredig. Ond rwy'n credu mai’r rhan o'r hyfforddiant sydd ddim yn cael digon o sylw oedd y gallu i ddatblygu y tu hwnt i fod yn hyfforddai. Gweithiais ar feysydd cymhleth o gyfrifon a chefais brofiad o annog staff i arwain timau bach ar archwiliadau. Fel rhan o'm hyfforddiant, fe wnes i secondiad byr gyda'r BBC a wellodd fy ngwybodaeth a'm sgiliau ymhellach yn ogystal â chyflawni cymhwyster ILM gan roi profiad hyfforddi cynhwysfawr iawn.

Wrth ddod tuag at ddiwedd fy nghontract hyfforddi, ymgeisiais am swydd agored fel arweinydd tîm o fewn Archwilio Cymru. Roedd y sgiliau a enillais wrth hyfforddi yn gweddu’n wych i’n swydd newydd. Yn fuan ar ôl dechrau’r swydd yma cefais gyfleoedd pellach a chefais fy nyrchafu i Archwilydd Arweiniol. Dwi nawr yn arwain archwiliadau mewn awdurdod unedol mawr, cronfa bensiwn ac awdurdod iechyd arbennig ynghyd â bod yn rhan o dîm rheoli mwy a Thîm Archwilio Ariannol mwy yn Ne Cymru. Mae cael edrych ar faterion logistaidd ehangach, rheoli pobl a llunio sut rydym yn gweithio yn rhywbeth dwi wedi’i fwynhau yn fawr. Dwi hefyd yn cael cyfleoedd i gyfrannu at waith nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â'n gwaith ar gyfrifon sy'n fy ngalluogi i ddatblygu ymhellach.

Mae'n wych cael gweithio mewn sefydliad sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru ac i allu cyfrannu at ei ddatblygiad, gan barhau i gael cyfleoedd i ddatblygu fy hun.

 

Urvisha Perez - Uwch Archwiliwr

Ymunais â Swyddfa Archwilio Cymru yn 2016 fel Archwilydd Perfformiad yn y Tîm Iechyd.

I fod yn onest, cyn ymuno â'r sefydliad doeddwn i heb ystyried gyrfa fel archwilydd. Cymerais yn ganiataol bod angen cymwysterau ariannol arnoch. Ond yn ffodus, fe roddodd fy nghefndir mewn awdurdod lleol ac ymchwil y sgiliau trosglwyddadwy yr oedd eu hangen arnaf.

Ers ymuno, rwyf wedi cyflawni portffolio o waith amrywiol a diddorol. Rwyf wedi archwilio sawl un o wasanaethau a systemau'r GIG, sef radioleg, gofal sylfaenol, cynllunio i ryddhau cleifion o'r ysbyty a threfniadau llywodraethu.  Fy hoff beth am fy swydd yw fy mod i'n dysgu'n barhaus, fy mod i'n cael cwrdd â llawer o bobl ddiddorol ac angerddol a fy mod i'n teimlo fy mod i'n gwneud gwahaniaeth i wasanaethau'r GIG.

Mae'n bleser gweithio yn Archwilio Cymru, sy’n llawn pobl gyfeillgar, gefnogol a gonest. Gallaf ddweud â sicrwydd nad ydw i wedi edrych am yn ôl ers ymuno â'r sefydliad!

 

 

Sue Henry

Sue Henry - Swyddog Gwasanaethau Busnes

Mae’r adran Gwasanaethau Busnes yn ganolog i waith y swyddfa o ddydd i ddydd, ac mae pob diwrnod yn wahanol. 

Mae fy swydd yn amrywio o archebu cynadleddau bach i ymchwilio i fanylion teithio a all gynnwys amseroedd hedfan a threfnu gwesty – yr elfennau hanfodol hynny sy’n hwyluso gwaith ein staff. Rwy’n hwyluso cyfathrebu’r staff hefyd, trwy gynnal rhwydwaith telathrebu’r sefydliad.

Rwy’n cynorthwyo’r sefydliad adeg cyfarfodydd mewnol a digwyddiadau rhanddeiliaid yn rheolaidd hefyd – trwy gyfarfod a chroesawu cleientiaid, ac esbonio’r trefniadau ymarferol iddynt. Gall digwyddiadau gynnwys rhwng dwsin a thrigain o bobl o sefydliadau amrywiol ag anghenion amrywiol.