Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Fe wnaethom fwrw golwg ar arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru a sut y mae awdurdodau cyhoeddus yn gweithio i gydymffurfio, yn bennaf â’r gofynion cynllunio ac adrodd. Nid ydym wedi archwilio eu camau gweithredu sy’n ymwneud yn benodol â bioamrywiaeth.

    Mae ein hadroddiad yn cydnabod enghreifftiau o ymdrechion i integreiddio uchelgeisiau ar gyfer bioamrywiaeth a natur â pholisïau ehangach. Ac fe ddarparodd awdurdodau cyhoeddus adborth cadarnhaol ar agweddau ar arweinyddiaeth strategol genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu amryw ffrydiau ariannu sy’n cefnogi camau gweithredu ar fioamrywiaeth.

    Rydym yn amlygu amryw feysydd ar gyfer gwella. Nid ymdriniwyd yn llawn â llawer o’r materion hyn ers iddynt gael eu hamlygu mewn gwerthusiad yn 2021. Maent yn cynnwys ansicrwydd ynghylch pa awdurdodau cyhoeddus a gwmpesir gan y ddyletswydd, a’r angen i gryfhau canllawiau a gwaith monitro Llywodraeth Cymru.

    Mae ein hargymhellion ni’n ymwneud yn bennaf â’r ddyletswydd gyfredol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried ei chamau gweithredu ochr yn ochr â’i chynigion i newid cyfraith amgylcheddol.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Nid yw’r argyfwng natur wedi bod yn flaenoriaeth ddigon uchel

    Gweld mwy
CAPTCHA