Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gweithio gyda'n gilydd i ddarparu cyfrifon llywodraeth leol amserol ac o ansawdd

09 Ionawr 2026
Dyma drawsgrifiad o’r araith a draddodwyd gan Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ein digwyddiad Cyfnewidfa Arfer Da (GPX) ar gyfrifon llywodraeth leol ar 11 Rhagfyr 2025. 

Rhagymadrodd

"Yn aml rwy’n clywed sylwadau am y cyfrifon hyn, er enghraifft, "Does neb yn eu darllen," "Maen nhw'n rhy gymhleth," neu "Does neb yn eu deall yn iawn." Rwy'n deall hynny! Ond allwn ni ddim caniatáu i'r naratif hon fodoli heb ei herio chwaith.

Mae cyfrifon yn llawer mwy na gofyniad technegol - maen nhw'n ffenestr ar sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. 

Mae'n ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i baratoi cyfrifon sy'n amserol ac o ansawdd uchel – yn wir, ni all cyfrifon nad ydynt yn amserol fod o ansawdd uchel, mewn gwirionedd.

Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cyd-fynd â rhwymedigaeth ar archwilwyr i gyflawni ein gwaith yn effeithlon ac yn brydlon, gan sicrhau bod y cofnod hanfodol hwn o stiwardiaeth ariannol ar gael i'r cyhoedd, y Senedd, Llywodraeth Cymru, Cyfrifon y Llywodraeth Gyfan, a llawer o rai eraill. Mae'n rhaid i ni chwarae ein rhan – ac fe wnawn ni chwarae ein rhan.

Mae cyfrifon amserol o ansawdd uchel yn ymwneud nid yn unig â chydymffurfiaeth – maen nhw’n ymwneud â dangos tryloywder, atebolrwydd, a'n hymrwymiad ar y cyd i bobl Cymru.

Felly, beth yw'r her? Pam rydyn ni yma heddiw?

Ledled Cymru, rydyn ni’n wynebu ôl-groniad sylweddol o gyfrifon a archwilir. Nid yw hyn yn unigryw i ni - mae llawer o rannau o'r DU yn cael trafferth gyda heriau tebyg - ond mae'n broblem y mae'n rhaid i ni ei hwynebu.

Gadewch i mi roi rhai rhifau i chi:

  • Llwyddodd 18 o gyrff llywodraeth leol (56%) i fodloni dyddiad cau Llywodraeth Cymru ar 30 Mehefin 2025 ar gyfer cyfrifon 2024-25. Mae hyn yn cymharu â 21 o gyrff (66%) yn 2023-24; a 22 o gyrff (68%) yn 2022-23.
  • O ran ardystio cyfrifon 2024-25 erbyn 31 Hydref 2025:
    • Llofnodwyd cyfrifon 9 o'r 22 awdurdod unedol ar amser
    • Llofnodwyd cyfrifon 3 o 4 awdurdod heddlu ar amser
    • Cafodd cyfrifon 3 o 3 awdurdod tân eu llofnodi ar amser

Nid yw hon yn her yr ydyn ni’n ei hwynebu o fewn y sectorau GIG neu lywodraeth ganolog yr ydym yn eu harchwilio.

Rwy'n deall y rhesymau dros rywfaint o'r oedi hyn: effeithiau parhaus y pandemig, cyfyngiadau ar adnoddau, a chymhlethdod cynyddol adrodd ariannol. Mae'r rhain yn bwysau gwirioneddol a dealladwy. 

Fodd bynnag, mwy na dwy flynedd a hanner ers i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan diwedd COVID-19 yn swyddogol fel Argyfwng Iechyd Cyhoeddus ar 5 Mai 2023, mae'n ymddangos bod yr ôl-groniad hwn yn gwaethygu.

Gadewch i mi fod yn glir: os nad ydyn ni’n gweithredu yn benderfynol ac ar frys, rydyn ni’n wynebu risg o symud yn araf tuag at sefyllfa debyg i'r hon sydd i’w gweld mewn llawer o lefydd yn Lloegr, lle mae hyder mewn rheolaeth ariannol gyhoeddus wedi ei danseilio yn sylfaenol. Ni all, ac ni ddylai, hynny ddigwydd yma yng Nghymru. 

Mae gennym ni gyfle - ac rwy'n credu cyfrifoldeb - i ddangos y gall Cymru arwain trwy esiampl, gan gyfuno trylwyredd â chydweithio, a brys â realaeth.
Mae'r cyhoedd yn disgwyl cyfrifon amserol, cywir. Ein cyfrifoldeb ni ar y cyd yw bodloni'r disgwyliad hwnnw.

Mae cyfrifon amserol o ansawdd uchel yn ymwneud nid yn unig â chydymffurfiaeth – maen nhw’n ymwneud â dangos tryloywder, atebolrwydd, a'n hymrwymiad ar y cyd i bobl Cymru.

Beth fydd Archwilio Cymru yn ei wneud i helpu?

Mae heddiw yn gam pwysig i'r cyfeiriad cywir - cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau ymarferol am y rhwystrau sy'n ein hwynebu ni ac archwilio datrysiadau posibl. Mae'n gyfle i ddysgu o brofiadau yng Nghymru a thu hwnt, i rannu dealltwriaeth, ac i lunio cynllun ar y cyd ar gyfer y dyfodol. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni droi'r sgyrsiau hyn yn weithredu ystyrlon sy'n cryfhau atebolrwydd ac sy’n cyflawni gwelliannau parhaol.

A byddwn ni’n parhau i roi cefnogaeth - ar lefel leol a thrwy ddigwyddiadau ar y cyd fel heddiw - gan sicrhau bod gweithio a dysgu ar y cyd yn parhau i fod wrth wraidd ein dull cyffredin.

Mae angen i mi hefyd annog mwy o frys ar draws y sector os ydyn ni eisiau ymdrin â'r mater hwn yn effeithiol.

Felly, fe wnaf i ysgrifennu at Arweinwyr a Phrif Weithredwyr cyrff sydd wedi methu dyddiadau cau 'statudol' i amlinellu fy mhryderon, gofyn am ddychwelyd i amserlenni statudol, a gofyn iddyn nhw ddatblygu cynlluniau adfer cadarn. Nid oes datrysiad unffurf sy’n addas i bawb - bydd angen cynllun pwrpasol ar bob sefydliad sy'n adlewyrchu ei fan cychwyn, ei gapasiti, a'i heriau penodol.

Ein nod ni yw cytuno ar y cynlluniau hyn gyda phob corff a monitro cynnydd yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu gosod terfynau amser realistig ond cadarn ar gyfer clirio ôl-groniadau hanesyddol a bodloni rhwymedigaethau'r flwyddyn gyfredol.

Mae'r neges yn syml: mae’n rhaid ymdrin â'r ôl-groniad ar frys.

Mae’n rhaid i ni hefyd gymryd golwg mwy tymor hir ac ymrwymo i fodel cadarn, cynaliadwy sy'n magu hyder ym maes rheoli ariannol yn ehangach.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol.

Mae yna awdurdodau lleol yng Nghymru lle mae pethau'n gweithio'n dda. Rhaid i'r sector ddysgu o'r enghreifftiau hyn, rhannu arfer gorau, a chefnogi ei gilydd i oresgyn heriau. 

Fel gwlad fach, mae gennym ni gyfle unigryw i gyfuno adnoddau, rhannu arbenigedd, a gweithio ar y cyd. Gyda'n gilydd, gallwn ddatblygu systemau ar y cyd, buddsoddi mewn dysgu a datblygu, a datblygu'r gallu sydd ei angen arnom i ddarparu cyfrifon amserol, o ansawdd uchel.
Nid rhywbeth dymunol yw cydweithredu - mae'n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd.

Mae angen i ni hefyd fuddsoddi yn y systemau sy'n cefnogi adrodd a rheoli ariannol. 

Mae hen systemau neu systemau tameidiog yn aml yn creu aneffeithlonrwydd, gan arafu prosesau a lleihau cywirdeb. Mae systemau modern, integredig yn hanfodol - nid yn unig i wella prydlondeb a chywirdeb ond hefyd i ddatgloi dadansoddeg data gwell. Data o ansawdd uchel yw'r sylfaen ar gyfer dealltwriaeth. 

Mae'n ein helpu ni i nodi tueddiadau, meincnodi perfformiad, a chefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus. Hebddo, rydyn ni’n wynebu risg gweithredu heb weld yn glir. Mae gwella ansawdd data o fudd i bawb: awdurdodau lleol, archwilwyr, ac yn y pen draw y dinasyddion yr ydym yn eu gwasanaethu.


Mae cyfrifon amserol, o ansawdd uchel yn sylfaenol i ymddiriedaeth y cyhoedd, llywodraethu effeithiol, a chynaliadwyedd ariannol. Maen nhw'n llawer mwy na rhifau ar dudalen; maen nhw’n llunio conglfaen fframwaith llywodraethu pob corff a archwilir.


Mae goresgyn yr her hon yn gofyn am frys, cydweithredu ac arweinyddiaeth ledled y sector. Bydd Archwilio Cymru yn chwarae ei ran – gan gynnig cefnogaeth a her lle bo angen hynny – ond mae llwyddiant yn dibynnu ar bob un ohonom. 

Mae gan Gymru gyfle i arwain drwy esiampl: i ddangos y gall partneriaeth a phenderfyniad sicrhau tryloywder a hyder mewn rheolaeth ariannol gyhoeddus.


Gadewch i ni fanteisio ar y cyfle hwnnw. Mae'r neges yn glir: mae’n rhaid ymdrin â'r ôl-groniad, a gyda'n gilydd gallwn ni wireddu hynny."
 

Mae gan Gymru gyfle i arwain drwy esiampl: i ddangos y gall partneriaeth a phenderfyniad sicrhau tryloywder a hyder mewn rheolaeth ariannol gyhoeddus.

I weld y deunyddiau o'r digwyddiad, gan gynnwys y cyflwyniadau ar pecynnau gan ein siaradwyr, ewch n tudalen adnoddau GPX.