Ein diwylliant

Rydym wedi ymrwymo i wneud Archwilio Cymru yn lle gwych i weithio a chreu diwylliant lle gall pawb ffynnu.

Mae ychydig mwy o wybodaeth am sut beth yw gweithio yn Archwilio Cymru isod. Neu, edrychwch ar ganlyniadau ein Harolwg Staff neu'r Strategaeth Bobl.

Ein gwerthoedd

Edrych i’r Dyfodol
Fel archwilwyr, nid dim ond edrych yn ôl a wnawn: rydym yn edrych tua’r gorwel, ac mae ein meddyliau a'n gweithredoedd yn canolbwyntio ar y dyfodol yng nghyd-destun lles cenedlaethau'r dyfodol.
Lightbulb Cog
Annibyniaeth
Fel corff archwilio cyhoeddus, mae annibyniaeth wrth wraidd popeth a wnawn.
Independance
Blaengaredd
Rydym yn cefnogi arloesedd a chymryd risgiau wedi’u reoli’n dda, boed hynny gennym ni neu gan y rhai sy'n rhoi cynnig arni yn ein cyrff archwiliedig.
Icon
Diffuantrwydd
Mae bod yn ddiffuant yn sail i'n holl ryngweithio â'n gilydd, gyda'r cyhoedd a chyda'r cyrff a archwilir gennym.
icon
Cydweithio
Mae cydweithredu'n hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn y ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd a chyda'r arolygiaethau.
icon
Tegwch
Rydym yn gweithredu gyda thegwch drwy’r amser yn y ffordd rydym yn trin ein cydweithwyr, ein cyrff archwiliedig a'r cyhoedd.
icon
Edrych i’r Dyfodol
Annibyniaeth
Blaengaredd
Diffuantrwydd
Cydweithio
Tegwch

Ein nod yw bod yn sefydliad sy'n cael ei redeg yn dda, yn atebol ac yn uchel ei barch ac sy'n lle gwych i weithio.

Mae gennym hefyd set o werthoedd ac ymddygiadau yn ein Strategaeth Pobl sy’n llywio sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd.

Ein hymddygiadauHYDERus

Rhinweddol a Didwyll
Rydym yn onest, yn anhunanol ac yn hawdd mynd atynt, gan greu amgylchedd diogel ac agored i bawb fod yn nhw eu hunain a gofalu am, cefnogi ac annog ei gilydd.
People Heart
Yn Parchu’n Gilydd
Rydym yn cofleidio amrywiaeth ac yn trin ein gilydd yn deg, gan feithrin perthynas waith gref, siarad ein meddwl yn feddylgar a bod yn agored i her.
People
Egnïol
Rydym yn hyderus ac yn barod i fentro, gan ddangos agwedd gadarnhaol, barod i weithredu, llawn hwyl ac sy’n dathlu llwyddiant.
Medal
Hyblyg
Rydym yn hyblyg ac yn arloesol, bob amser yn datblygu ein gwybodaeth a'n sgiliau ac yn chwilio am brofiadau newydd.
Brain
Dibynadwy
Rydym yn cymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd, yn cyflawni ein haddewidion, yn rhannu gwybodaeth yn agored, yn gweithredu er budd gorau Archwilio Cymru ac yn galluogi eraill i lwyddo.
Handshake
Rhinweddol a Didwyll
Yn Parchu’n Gilydd
Egnïol
Hyblyg
Dibynadwy