Our People

Ein nod yw bod yn sefydliad sy'n cael ei redeg yn dda, yn atebol, yn uchel ei barch a sy'n lle gwych i weithio.

Rydym yn gweithio i roi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda, yn esbonio sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion pobl ac ysbrydoli a grymuso sector cyhoeddus Cymru i wella. Rydym yn ymdrechu i wneud i arian cyhoeddus gyfrif, ac i wneud gwahaniaeth i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau yng Nghymru.

Mae gyrfa yn Archwilio Cymru yn yrfa sydd wir yn cyfrif.

Mae gwasanaethau cyhoeddus wrth galon cymdeithas yng Nghymru; gwella ansawdd bywyd pobl pan fyddant yn gweithio’n dda, ond pan aiff pethau o chwith, gall cymunedau cyfan ddioddef.

Mae ein staff a’n gwaith yn cefnogi’r Archwilydd Cyffredinol fel corff gwarchod y sector cyhoeddus ar gyfer Cymru, gan wneud i arian cyhoeddus gyfrif ac ysbrydoli a grymuso’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.

Fel lle i weithio, rydyn ni ychydig yn wahanol.

Rydym am i Archwilio Cymru fod yn lle y mae pobl yn falch o weithio ynddo a mwynhau'r hyn a wnânt - amgylchedd ymgysylltiol a chynhwysol y gall pawb ragori ynddo.

Rydym yn wirioneddol yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig diwylliant croesawgar ac amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

Mae Archwilio Cymru yn cynnwys tair adran wahanol o'r sefydliad, Gwasanaethau Archwilio, Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfathrebu a Newid.