• Cynllun Graddedigion

Cynllun Graddedigion

Mae gyrfa yn Archwilio Cymru yn yrfa sydd wirioneddol yn cyfrif.

Mae gwasanaethau cyhoeddus wrth wraidd cymdeithas yng Nghymru; yn gwella ansawdd bywyd pobl pan fyddant yn gweithio'n dda, ond pan fydd pethau'n mynd o’i le, gall cymunedau cyfan ddioddef.

Mae ein staff a'n gwaith yn cefnogi'r Archwilydd Cyffredinol fel corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan wneud i arian cyhoeddus gyfrif ac ysbrydoli a grymuso sector cyhoeddus Cymru i wella.

Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n gynrychioliadol o'r cymunedau rydyn ni'n gweithio ynddynt a'r sgiliau, profiadau a safbwyntiau y byddant yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.

Rydym yn croesawu ceisiadau y gellir eu cyflwyno yn Gymraeg; ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cynllun hyfforddai graddedig, ein proses ddethol neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol, cysylltwch â Sian Grainger ar 029 2032 0547 neu e-bostiwch sian.grainger@archwilio.cymru: AdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru.

 

Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs