Aelodau'r Bwrdd

Alison Gerrard

Example image

Mae Alison yn gyfrifydd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth gyda chymhwyster pellach mewn Llywodraethu Corfforaethol. Bu'n gweithio cyn hynny i GIG Cymru am dros 32 mlynedd gydag 11 mlynedd o brofiad ar lefel y Bwrdd fel Cyfarwyddwr Cyllid ac yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Llywodraethu.

Mae ganddi brofiad eang o ddatblygu polisi, cynllunio strategol a gweithredol, rheoli perfformiad a phob agwedd ar lywodraethu cyllidol a chorfforaethol. 

Drwy gydol ei gyrfa, mae Alison bob amser wedi hyrwyddo tegwch gan drin pobl yn gyfartal heb wahaniaethu neu ffafrio yn ogystal â chynnal safonau ymddygiad gonest a chyfiawn. Yn 2014, penodwyd Alison yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Swyddfa Archwilio Cymru sydd wedi rhoi sylfaen da iddi yng ngwaith Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. 

Y tu allan i'r gwaith, mae Alison yn chwarae rhan flaenllaw gyda'i theatr leol ar y llwyfan ac oddi arno ac fel actor ychwanegol ar deledu. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn teithio ac mae'n mwynhau crwydro i leoedd y tu hwnt i'r llwybr twristaidd.