Cyfarwyddwyr

Matthew Edwards

Example image

Cymro Cymraeg rhugl, mae Matthew yn Gyfarwyddwr Archwilio Ariannol gyda phortffolio eang o archwiliadau ar draws Cymru gyfan gan gynnwys llywodraeth leol, y GIG a chyrff llywodraeth ganolog.

Mae'n Gyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad archwilio yn y sector cyhoeddus o ran archwilio ariannol a gwaith gwerth am arian lleol. Mae Matthew hefyd yn gyn-Aelod o'n Tîm Arweinyddiaeth Weithredol ac yn gadeirydd Grŵp Datblygu Archwilio Ariannol Archwilio Cymru a arweiniodd at ddatblygu ein dull archwilio. Mae ganddo hefyd ddiddordeb brwd yn ein rhaglen i raddedigion o dan hyfforddiant a datblygu'r genhedlaeth nesaf o archwilwyr ac arweinwyr cyllid.

Mae Matthew yn dod o Ogledd Cymru ac fe'i addysgwyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam. Enillodd radd BSC (Cyd-Anrhydedd) mewn Daearyddiaeth a Gwyddor Wleidyddol o Brifysgol Coventry cyn ymuno ag Archwilio Cymru a'r sefydliad a'i rhagflaenodd, y Comisiwn Archwilio ym 1997.   

Mae Matthew yn byw yn Wrecsam gyda'i wraig a'i ddwy ferch. Mae'n dal tocyn tymor ar gyfer Clwb Pêl-droed Wrecsam ac mae'n seiclwr ffordd brwdfrydig. Roedd ei gyflawniad mwyaf hyd yma ar ddwy olwyn yn golygu cylchfordwyo Cymru mewn pum niwrnod i elusen.