Cyhoeddiad Cyngor Gwynedd - Adroddiad Gwella Blynyddol Mae’r adroddiad yn ymdrin â threfniadau Cyngor Gwynedd (y Cyngor) i ddarparu a gwerthuso ei wasanaethau yn 2012-13, ei waith i gynllunio gwelliant yn 2013-14 a, chan ystyried y rhain, daw i gasgliad o ran pa un a yw’r Archwilydd Cyffredinol o’r farn y bydd y Cyngor yn gwneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer 2014-15. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cod Ymarfer Archwilio a Datganiad o Ymarfer Archwilydd Cyffr... Mae’r Cod yn rhagnodi’r ffordd y dylai archwiliadau a swyddogaethau eraill yr Archwilydd Cyffredinol gael eu gweithredu, ac mae’n corffori beth sy’n ymddangos i’r Archwilydd Cyffredinol fel arfer proffesiynol gorau. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd 2007-2013 Mae rhaglenni cyllid strwythurol yr UE 2007-2013 - sy‟n helpu i sicrhau swyddi, twf a datblygiad cynaliadwy - wedi gwneud cynnydd da o gymharu â rhaglenni blaenorol. Ond, mae‟n rhy gynnar i asesu‟r effaith gyffredinol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Arian Cyhoeddus ar gyfer Canolfan Cywain, Y Bala Agorodd Canolfan Cywain ym mis Ebrill 2008, ond wynebodd anawsterau yn fuan wedyn cyn cau ym mis Medi 2011. Amcangyfrifwyd mai cost y ganolfan i’r sector cyhoeddus oedd £2.2 miliwn. Fodd bynnag, erbyn i’r Ganolfan gau yn 2011, roedd y gost i’r sector cyhoeddus wedi codi i dros £3.4 miliwn. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Swyddfa Archwilio Cymru Cynllun Blynyddol 2014-15 Paratowyd y Cynllun Blynyddol hwn ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru dan adran 25(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Adolygiad o Wasanaeth... Mae nyrsys ardal yn chwarae rhan bwysig a hanfodol yn y tîm gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, gan ymweld â chleifion yn eu cartrefi eu hunain a darparu gofalu iddynt, a gall hyn gynnwys cartrefi gofal preswyl. Yn ogystal â darparu gofal uniongyrchol i gleifion, mae gan nyrsys ardal hefyd rôl addysgu ac maent yn gweithio gyda chleifion a'u perthnasau i'w helpu i reoli eu cyflwr a'u triniaeth, gan atal pobl rhag cael eu derbyn neu eu haildderbyn i'r ysbyty yn ddiangen. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Arlwyo mewn Ysbytai - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr... Mae gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai yn rhan hanfodol o’r gofal a roddir i gleifion o gofio bod prydau bwyd maethlon, o ansawdd da yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu cleifion i adsefydlu a gwella. Mae gwasanaethau arlwy o effeithiol yn dibynnu ar gamau cadarn i gynllunio a chydgysylltu amrywiaeth o brosesau gan gynnwys cynllunio bwydlenni, caffael, cynhyrchu bwyd a dosbarthu prydau bwyd i wardiau a chleifion. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Adolygiad o Godio Clinigol - Ymddiriedolaeth GIG Felindre Roedd gwaith codio clinigol yn cael ei gwblhau’n brydlon yn y gorffennol, ond mae ystod o wendidau yn y trefniadau a’r broses yn effeithio ar gywirdeb data clinigol wedi’i godio yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac mae prinder adnoddau’n golygu bod yr ôl-groniad mewn perthynas â chyfnodau heb eu codio bellach ar gynnydd. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Graddfeydd ffioedd archwilio ac arolygu llywodraeth leol 201... Yn cynnwys graddfeydd ffioedd am archwilio cyfrifon 2013-14 awdurdodau unedol, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, cronfeydd pensiwn a chynghorau tref a chymuned. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Rheoli Cyflyrau Cronig yng Nghymru – Diweddariad Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fyw’n hŷn. Gweld mwy