Cyhoeddiad Rhoi Ynni i mewn i Werthusiadau Perfformiad - Gwasanaeth Pra... Fe ddefnyddiodd Gwasanaeth Prawf De Cymru (gynt) Werthusiadau perfformiad staff i weithredu eu polisi gwyrdd ar draws y sefydliad. Fe wnaeth isadrannau Ieihau milltiroedd, gynyddu ailgylchu ac adrodd ar eu cynnydd ar weithredu'r Polisi i'r Bwrdd. Gweld mwy
Cyhoeddiad Arbed Arian Trwy Archwiliadau Dŵr - Heddlu De Cymru Cafodd Heddlu De Cymru eu darparu ag archwiliadau Dŵr Cymru a chynhaliwyd camau gweithredu adferol am ddim. Maent wedi arbed £10,000 y flwyddyn ym Mhencadlys Heddlu De Cymru. Mae Pencadlys Heddlu De Cymru lledaenu ar draws 12 acer ac yn cynnwys ystod amrywiol o Iety, o adeiladau cyn y rhyfel i amgylcheddau modern, addas i'r pwrpas. Mae'r safle yn defnyddio cyfartaledd o 13.5 miliwn Litr o Dŵr y flwyddyn ar gost - £38,000. Gweld mwy
Cyhoeddiad Ymgysylltu â Staff mewn Ynni - ‘Turning off the Northern Lig... Mae Heddlu De Cymru yn mynd ati i ddatblygu rhaglen Buddsoddi i Arbed ar draws ei ystâd fel rhan o'i ymrvvymiad Ileihau carbon ac effeithlonrwydd ynni. Y fenter ddiweddaraf oedd gwella'r Goleuadau yng Ngorsaf Heddlu Pontypridd. Mae'r arbedion cyffredinol o'r fenter wedi eu hamcangyfrif yn £12k mewn costau ynni is. Bydd yr arbedion yn uwch yn y dyfodol wrth i gostau ynni godi. Gweld mwy
Cyhoeddiad Rheoli dŵr - y manteision go iawn o ddarllen mesurydd - Bwrd... Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn defnyddio Darllenydd Mesurydd Awtomatig fel offeryn perfformiad yn ogystal ag offeryn rhybudd, sy'n eu galluogi i reoli defnydd yn effeithlon, ymateb yn syth i anghysondebau ac arbed arian. Gweld mwy
Cyhoeddiad Grwpiau Ardal Aelodau - Cyngor Sir Ddinbych Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi sefydlu Grwpiau Ardal Aelodau sy'n cynnig dulliau ymgysylltu a deialog â chymunedau ar Iawr gwlad. Megis cychwyn y maent ond mae'r Grwpiau Ardal Aelodau yn cynnig pob cyfle i Aelodau Etholedig gyd-drafod materion ar sail ddaearyddol. Mae ymgynghori o'r fath yn golygu y gallai adborth gan y gymuned ddylanwadu'n uniongyrchol ar drefniadau craffu'r Awdurdod a phartneriaethau. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Bwrdd Iechyd Hywel Dda - Rhagnodi ym maes Gofal Sylfaenol Rhagnodi cyffuriau yw'r math mwyaf cyffredin o driniaeth ym maes gofal sylfaenol ac mae GIG Cymru yn darparu tua 75 miliwn o bresgripsiynau ym maes gofal sylfaenol bob blwyddyn sy'n cyfateb i tua £600 miliwn mewn costau meddyginiaeth. Mae'r swm blynyddol a gaiff ei wario ym maes gofal sylfaenol fesul pen o'r boblogaeth (£196) yn uwch nag yn Lloegr (£169) a'r Alban (£168). Hefyd, yn 2012, rhagnodwyd 24 o eitemau am bob unigolyn yng Nghymru, sy'n uwch na gweddill y DU ac mae hyn wedi cynyddu o 15 yn 2002. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Bwrdd lechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - Contract Meddygon ... Yn 2013, aethom ati i grynhoi canfyddiadau’r holl waith lleol a gyflawnwyd ym mhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth a oedd yn cyflogi niferoedd mawr o feddygon ymgynghorol yn 2011. Gweld mwy
Cyhoeddiad Menter Rheoli Asedau Eiddo Cydweithredol - Cyngor Caerdydd C... Mae'r project hwn yn ystyried a oes potensial i gyrff sector cyhoeddus gydweithredu o ran rheoli a datblygu ystadau eiddo. Gweld mwy
Cyhoeddiad Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngh... Sicrhaodd y Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru gyfraniad gan y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, gofalwyr a phobl sydd â diddordeb mewn gwasanaethau. Nodwyd eu gwybodaeth ar Iefel strategol yn yr agenda trawsnewid a nodwyd yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt Mae’r adroddiad hwn yn darparu asesiad manwl o’r sefyllfa ariannol o fewn cyrff y GIG yn 2012-13. Mae hefyd yn ystyried perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar y meysydd hynny y mae’r Adran wedi’u nodi fel blaenoriaeth. Wedyn, aiff yr adroddiad ati i ystyried yr heriau ariannol a gwasanaeth byrdymor, tymor canolig a hirdymor y mae GIG Cymru yn eu hwynebu yn y dyfodol. Gweld mwy