Cyhoeddiad Celfyddydau, diwylliant a hamdden Defnyddio Technoleg i gyflawni gwelliannau ac effeithiolrwyd... Ceisiodd ein hadolygiadau ateb y cwestiwn: “A yw trefniadau cynghorau ar gyfer datblygu, defnyddio a chefnogi technoleg yn debygol o sicrhau gwelliant parhaus?” Gwnaethom gynnal yr adolygiadau hyn yng nghyd-destun strategol nod Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymagweddau cyffredin tuag at TGCh. Gweld mwy
Cyhoeddiad Celfyddydau, diwylliant a hamdden Cyngor Sir Penfro Arolygiad Arbennig – Rhoi Trefniadau Dioge... Mae'r adroddiad hwn yn nodi canlyniadau fy arolygiad arbennig o Gyngor Sir Penfro (y Cyngor) o dan Adran 21 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur). Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i mi grybwyll unrhyw fater lle credaf, o ganlyniad i'r arolygiad, bod y Cyngor yn methu â chydymffurfio â gofynion Rhan 1 o'r Mesur (gwella llywodraeth leol). Er nad yw fy arolygiad wedi gwneud i mi amau bod y Cyngor wedi cydweithredu â'r Bwrdd na'r potensial sy'n bodoli, nododd bryderon difrifol a pharhaus. Gweld mwy
Cyhoeddiad Celfyddydau, diwylliant a hamdden Argyfyngau Sifil yng Nghymru Ystyriodd ein hastudiaeth p’un a yw Deddf Argyfyngau Sifi l Posibl 2004 wedi arwain at drefniadau effeithiol ar gyfer cynllunio at argyfwng a chydnerthedd mewn cymunedau sy’n diogelu’r cyhoedd yng Nghymru yn ddigonol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Celfyddydau, diwylliant a hamdden Cyfrifon Awdurdodau Lleol 2011-12 Mae’r adroddiad hwn, sef fy ail adroddiad blynyddol ar gyfrifon awdurdodau lleol, yn crynhoi canlyniadau gwaith yr archwilwyr ar gyfer 2011-12 yn y mathau canlynol o awdurdodau yng Nghymru: Awdurdodau unedol (gan gynnwys wyth cronfa bensiwn), Awdurdodau'r heddlu, Awdurdodau tân ac achub ac Awdurdodau'r parciau cenedlaethol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Celfyddydau, diwylliant a hamdden Awdurdod Heddlu De Cymru Adroddiad Archwilio Blynyddol 2012 Mae'r Adroddiad Archwilio Blynyddol (yr Adroddiad) hwn i aelodau Awdurdod Heddlu De Cymru (yr Awdurdod) yn crynhoi'r casgliadau o'm harchwiliad ar gyfer 2011-12. Mae'r adroddiad yn rhoi gwybodaeth i aelodau'r Awdurdod am unrhyw faterion o bwys sy'n codi o'm harchwiliad, ynghyd â'm sylwadau ar faterion cyfredol eraill. Gweld mwy
Cyhoeddiad Her Gymunedol - Cyngor Sir Gar Mae'r Cyngor yn gweithio i leihau ei ôl-troed carbon, ac hefyd yn annog trigolion i wneud yr un fath drwy ymgysylltu â chymunedau i gefnogi prosiectau a chynlluniau lleol i leihau carbon. Gweld mwy
Cyhoeddiad Ymgynghoriad Arloesol Teuluoedd yn Gyntaf - Fframwaith Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar brofiad presennol plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd angen cefnogaeth dwys, er mwyn adnabod y prif feysydd pryder, a fydd yn arwain at argymhellion deallus ar gyfer gwella. Gweld mwy
Cyhoeddiad Digwyddiad Brogarwyr Tra Mad - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rho... Er mwyn hyrwyddo balchder ddinesig ymysg y dinasyddion, trefnodd dim Gofal Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf ddyddiau amgylcheddol ar thema Doctor Who, a sut effaith gall ein gweithredoedd heddiw ei cael ar ddyfodol y Bwrdeistref Sirol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Adolygiad dily... Mae gwasanaethau theatrau llawdriniaethau yn rhan hanfodol o ofal cleifion. Er budd cleifion a sefydliadau’r GIG, dylid sicrhau bod adnoddau theatrau llawdriniaethau yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl i sicrhau eu bod yn gost effeithiol, yn cynorthwyo i gyflawni targedau amseroedd aros ac yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol i’r cleifion. Gweld mwy
Cyhoeddiad Celfyddydau, diwylliant a hamdden Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Ansawdd Data 2010-11 Paratowyd y ddogfen hon i’w defnyddio’n fewnol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan fel rhan o waith a wnaed yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a’r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Gweld mwy