Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae ein cyhoeddiadau yn cwmpasu ystod eang o waith archwilio sydd wedi'i gwblhau o fewn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys: llywodraeth ganolog, cynghorau lleol, byrddau iechyd, lluoedd heddlu, gwasanaethau tân, a parciau cenedlaethol.

Defnyddiwch y teclyn chwilio i edrych am adroddiad benodol. Neu hidlwch y canlyniadau i'ch helpu i ddod o hyd i gyhoeddiad ar fater, sector, ardal neu flwyddyn benodol.

Pynciau
Sectorau
Adroddiadau
Ardal

Gallwch gael gafael ar adroddiadau hŷn ar archif gwefannau y DU [agorir mewn ffenestr newydd]

Gallwch hefyd gysylltu â ni yn uniongyrchol a byddwn yn hapus i'ch helpu i gael copi electronig.

Audit wales logo

Ymateb cynghorau i'r heriau ariannol: Negeseuon allweddol o ...

Gwnaethom adolygu pob un o'r 22 o asesiadau corfforaethol, i archwilio a yw cynghorau mewn sefyllfa dda i ymateb yn effeithiol i'r heriau ariannol ac i nodi gwersi allweddol.

Gweld mwy
Audit wales logo

Gwasanaethau tai i oedolion ag anghenion iechyd meddwl

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried cwestiwn penodol sef p'un a yw'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau tai i oedolion ag anghenion iechyd meddwl wedi gwella.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Y Newyddion Diweddaraf am Raglen Waith Swyddfa Archwilio Cym...

Mae’r papur briffio canlynol yn darparu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ag amlinelliad o raglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2010

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Adolygiad Cymheiriaid Rhyngwladol o Swyddfa Archwilio Cymru ...

Canfu'r Adolygiad Cymheiriaid bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi datblygu hanes o lwyddiant yn ystod y pedair blynedd gyntaf ers ei sefydlu yn 2005, ond ei bod yn wynebu trobwynt gan fod y cyd-destun ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn newid yn sylweddol. Mae'r adroddiad hwn yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gynnydd Swyddfa Archwilio Cymru o ran mynd i'r afael ag argymhellion yr Adolygiad

Cymheiriaid. 

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Trefniadau llywodraethu newydd arfaethedig ar gyfer Swyddfa ...

Mae’r papur briffio canlynol yn amlinellu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gynigion yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru

Gweld mwy
Cyhoeddiad Addysg a sgiliau
Audit wales logo

Y Defnydd o Adnoddau mewn Ysgolion Arbennig

Awgrymodd ein dadansoddiad rhagarweiniol o ddatganiadau Adran 52 y gallai ysgolion arbennig sy'n cynnig darpariaeth debyg ar gyfer disgyblion ag anghenion tebyg fod yn derbyn lefelau sylweddol wahanol o arian, rhwng awdurdodau a hyd yn oed o fewn yr un awdurdod. Er mwyn ceisio cael gwybod mwy am ygwahaniaethau hyn, buom yn ceisio ateb a dod o hyd i enghreifftiau o arfer da mewn perthynas â'r cwestiwn: 'A yw ysgolion a chynghorau yn gwneud defnydd da o adnoddau i ddiwallu anghenion disgyblion mewn ysgolion arbennig yng Nghymru?’

Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid
Audit wales logo

Cynnal gwerth am arian yng ngwasanaeth yr heddlu yng Nghymru...

Mae’r cyfarwyddyd hwn wedi’i gynhyrchu ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn crynhoi’r allbynnau sy’n ymwneud yn benodol â Chymru o ran ein hadroddiad diweddar ledled y DU ar werth am arian o fewn y gwasanaeth heddlu – a gyflwynwyd ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, y comisiwn Archwilio ac Arolygwyr Ei mawrhydi (HMIC).

Gweld mwy
Audit wales logo

Comisiwn Coedwigaeth Cymru - Arian Cyhoeddus Coetir Ffynone ...

Ym mis Gorffennaf 2009, cysylltodd aelodau o'r gymuned leol a Chadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol â ni ar sail gohebiaeth debyg i ohebiaeth a anfonwyd at y pwyllgor. I grynhoi, y prif bryderon oedd bod yna fethiannau difrifol mewn cysylltiad â'r grant a ddyfarnwyd i Calon megis: dyfarnu grant a lywiwyd ar gyfer grwpiau cymunedol i gwmni preifat heb ymgynghoriad cymunedol cyn dyfarnu’r grant; bod llawer o'r wybodaeth a ddarparwyd i ategu'r cais am arian yn camarwain yn fwriadol, yn camliwio ac yn anghywir; nad oedd y broses grant yn dryloyw. Mewn ymateb i'r pryderon hyn rydym wedi ystyried a oedd yr arian cyhoeddus a ddyfarnwyd i Calon gan y Comisiwn yn briodol, yn ddiduedd ac yn unol â'r meini prawf y cytunwyd arnynt.

Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid
Audit wales logo

Cynnal gwerth am arian yng ngwasanaeth yr heddlu

Mae gwariant yr heddlu wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae troseddu wedi lleihau ac mae hyder cyhoeddus wedi cynyddu ond er bod y lefelau cyllid wedi codi mae’r broses o graffu a herio gwariant wedi bod yn wael. Mae’r adroddiad hwn yn darparu fframwaith ar gyfer newid wrth ddefnyddio dull trawsffurfiol mewn cyswllt â bygythiad, niwed a risg ac yn herio’r heddlu i wneud arbedion sylweddol yn y dyfodol.

Gweld mwy
Cyhoeddiad Addysg a sgiliau
Audit wales logo

Buddsoddi Cyfalaf mewn Ysgolion

Ystyriwyd p’un a yw’r rhaglen buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion wedi’i rheoli yn y ffordd orau posibl. Cwblhawyd gwaith maes yr astudiaeth yn ystod 2008-09.

Gweld mwy