Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae mynd i’r afael â thlodi yn golygu mynd i’r afael â’r data ar dlodi

11 Tachwedd 2022
  • Daeth ein hadolygiad i dlodi yng Nghymru i ben yr wythnos diwethaf, wrth gyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol: Amser am Newid – Tlodi yng Nghymru

    Mae llawer ohonom yn ddigon ffodus i beidio â chael ein heffeithio gan dlodi, ond wrth i’r gaeaf agosáu ac rydym yn estyn am y thermostat, rydym i gyd mewn rhyw ffordd yn teimlo pwysau’r argyfwng costau byw. Pa un os ydym yn cael trafferth gyda’n biliau, yn torri lawr ar wasanaethau rydyn ni’n eu defnyddio, yn newid pa fwyd rydyn ni’n ei brynu i’w fwyta, neu dim ond y straen go iawn sy’n effeithio ar ein hiechyd meddwl. Tra y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ymdopi â’r trafferthion hyn, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod mwy a mwy o bobl yn llithro i dlodi wrth i gostau argyfwng byw frathu.

    Roedd yr effaith enfawr ar bobl sy’n ei chael hi’n anodd o ddydd i ddydd gyda sicrhau digon o fwyd neu allu defnyddio eu gwres ar flaen ein meddyliau yn ein digwyddiad Cyfnewidfa Arfer Da Mynd i’r Afael â Thlodi a gynhaliwyd yn y Gogledd a’r De.

    Mae gwneud gwell defnydd o ddata yn rhan bwysig o’r ateb i leihau tlodi, boed hynny drwy nodi’r rhai sydd mewn perygl y bydd tlodi yn effeithio arnynt neu sydd yn ei brofi, neu wrth rannu data rhwng gwasanaethau i ddarparu ymateb wedi’i dargedu’n well i gynorthwyo pobl. 

    Gwnaethom archwilio’r materion hyn yn ystod un o’r gweithdai yn y digwyddiad. Rydym yn canolbwyntio ar sut y gallwn ddefnyddio data tlodi i gyflawni mwy o effaith, sut i dorri allan o feddyliau seilo wrth weithio gyda data ar draws gwasanaethau cyngor a meincnodi gwell gyda chyrff eraill. Gofynnon ni i gyfranogwyr feddwl am y rhwystrau sy’n wynebu eu sefydliadau wrth ddefnyddio data, pa atebion yr oeddynt wedi canfod i fynd i’r afael â’r rhain, a rhannu unrhyw enghreifftiau o sut maent wedi goresgyn rhai o’r problemau amlwg.

    Taflen waith gyda thri nodyn ôl-it yn dangos y geiriau Barriers, Solutions and Examples.

    Daeth cyfranogwyr o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys gwasanaethau Cynghorau, sefydliadau’r trydydd sector a’r GIG.

    Beth wnaethom ei ddysgu?

    Roedd rhai o’r rhwystrau a archwiliwyd yn cynnwys y gallu i gael ac adrodd data mewn amser real a diffyg staff medrus wedi’u hymrwymo sy’n gallu holi’n fanwl a gwneud y defnydd gorau o wybodaeth. Clywsom am yr anhawster i ddadansoddi data, gyda rhai’n holi ynghylch cywirdeb data i wneud penderfyniadau gwybodus, a rhai cyfranogwyr heb wybod ble i gael gafael ar ddata. Soniodd rhai am bwysigrwydd sicrhau bod swyddog a all fod yn atebol am ddata tlodi ar draws sawl maes gwasanaeth.

    Gall dadansoddi data ddod yn ymarfer eithaf ynysig, ac roedd yn dda gweld cyfranogwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr angen i gydweithio a rhwydweithio gydag arbenigwyr data eraill i oresgyn materion cyffredin. Tynnodd rhai sylw at y ffaith bod yn rhaid i ddata fod yn gywir, ond pwysleisiodd y pwysigrwydd i beidio â gorbwysleisio ar gywirdeb ar draul cynhyrchu dadansoddiad prydlon, gan wybod na fydd unrhyw ddata ar dlodi yn gant y cant yn gywir.

    Gwyddom, er gwaethaf diffyg dangosyddion cenedlaethol, fod gan Gynghorau ddata helaeth, felly gwnaethom ofyn i rai grwpiau archwilio sut y gallant wneud gwell defnydd o’r data presennol. Cododd gwaith seilo fel rhwystr allweddol yma, o fewn a thu allan i sefydliadau. Gwnaeth rhai oresgyn hyn drwy sicrhau bod data’n hawdd ei dreulio, gan y gallwch gael setiau data helaeth, sy’n dod yn ddiwerth os nad oes llawer o bobl yn gallu eu deall. Yn gwbl iawn felly, soniwyd am ystyried risgiau diogelu data fel mater allweddol wrth rannu data ar dlodi, er ei bod yn amlwg bod sefydliadau wedi gweithio gyda’i gilydd i oresgyn rhai o’r rhwystrau a wynebwyd ganddynt yn nyddiau cynnar GDPR.

    Clywsom sut y gall cyrff cyhoeddus ddefnyddio dull mwy cyfunol wrth ddefnyddio data ar dlodi i helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau. Soniodd rhai pa mor ddefnyddiol fyddai hi pe bai modd sicrhau bod data ar gael i gyflogwyr, gan nodi maint y rhai sy’n cael eu heffeithio gan dlodi yn y gwaith yn eu sefydliad. Galwodd rhai swyddogion am ddata manylach sy’n cyfleu’r cnawdau yn well ynghylch tlodi, ac yn helpu i sicrhau bod data’n fwy perthnasol i’w timau, er enghraifft drwy ddadansoddi’n fanwl ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

    Sut rydym yn helpu

    Roedd yr holl heriau hyn yn taro deuddeg gyda thîm Archwilio Cymru, wrth i ni ein hunain geisio goresgyn yr heriau hyn a heriau eraill wrth wneud gwell defnydd o ddata yn ystod ein hastudiaeth a chynhyrchu ein hofferyn data rhyngweithiol.

    Gwnaethom ganfod bylchau yn y data, anawsterau wrth gael gafael ar rai setiau data, a phroblemau wrth gael gafael ar ddata ar sawl lefel.

    Gobeithio bod ein hofferyn yn taflu goleuni ar sawl agwedd ar dlodi gan ddod â’r holl ddata at ei gilydd mewn un lle, wedi’i ganoli o amgylch yr hyn a ddisgrifiwyd gennym fel y saith dimensiwn tlodi.

    Mae ein hofferyn yn un cam ar y llwybr i ddefnyddio data ar dlodi yn fwy effeithiol, ond rydym yn cydnabod bod defnyddio data yn aml yn daith heb ddiwedd.

    Gobeithio y bydd yr offeryn o werth i chi, mae croeso i chi anfon eich adborth i roi gwybod i ni sut y gallwn wella ein hoffer data yn y dyfodol.

    Gweler ein hofferyn data ar Dlodi yng Nghymru [yn agor mewn ffenestr newydd].

    Am yr awdur

    Mae Matt Brushett yn Uwch-archwilydd yn Archwilio Cymru. Mae Matt wedi gweithio i Archwilio Cymru ers 2013, gan gyflawni sawl swyddogaeth yn Archwilio Perfformiad ar draws Iechyd a Llywodraeth Ganol, cyn symud i’r tîm llywodraeth leol fel Uwch Archwilydd yn 2018. Mae Matt wedi arwain cynhyrchu sawl offeryn data ar gyfer astudiaethau cenedlaethol, gan gynnwys ‘Y Drws Ffrynt i ofal cymdeithasol’, ‘Cysgu Allan yng Nghymru’ ac ‘Adfywio Canol Trefi yng Nghymru’. Yn ogystal â gweithio ar astudiaethau cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol, mae hefyd yn gwneud gwaith archwilio lleol gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub. 

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Offeryn data ar Dlodi yng Nghymru

    View more