Yn ein Cynllun Blynyddol, mae'r Archwilydd Cyffredinol a Chadeirydd y Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru’n amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf.
Ychydig amdanom ni
Ar ran pobl Cymru, ac yn gwbl annibynnol ar y llywodraeth, rydym yn archwilio gwariant cyhoeddus ac yn nodi ffyrdd o wella gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym yn archwilio oddeutu £21 biliwn o incwm a gwariant, sydd dros chwarter cynnyrch domestig gros Cymru. Yn gynyddol, rydym yn ystyried stiwardiaeth adnoddau dynol a naturiol ochr yn ochr â'n hystyriaeth o adnoddau ariannol a'r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn cyfrif am eu defnydd.
Chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn COVID-19
Wrth i'r sector cyhoeddus yng Nghymru barhau i fynd i'r afael ag effaith COVID-19, mae'r ddogfen hon yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf, o ran ein gwaith archwilio a sut rydym yn rhedeg y busnes.
Mae archwilio’n chwarae rhan hanfodol wrth roi'r wybodaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, gwleidyddion, llunwyr penderfyniadau a dylanwadwyr ynlŷn â pha mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yn yr amseroedd rhyfedd hyn gan ein bod yn gweld pwysau enfawr ar wasanaethau cyhoeddus a bydd ein rhaglen gwaith archwilio yn adlewyrchu hyn.
Er bod cyflwyno'r rhaglen frechu yn rhoi gobaith i ni am rywfaint o olau ym mhen draw’r twnnel, rydym yn ymwybodol bod y pwysau’n eithriadol ar hyn o bryd a rhaid blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen. O'r herwydd, byddwn yn cadw rhywfaint o hyblygrwydd yn ein rhaglenni gwaith 2021-22 ac yn rhannu arfer da i alluogi hyn ac i ganiatáu i ni ymateb i ddatblygiadau sy'n dod i’r amlwg.
Beth sy'n dylanwadu ar y ffordd rydyn ni'n cyflawni ein huchelgeisiau?
- Effeithiau pandemig COVID-19
- Goblygiadau Brexit
- Yr argyfwng hinsawdd
- Ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [agorir mewn ffenestr newydd]
- Heriau economaidd-gymdeithasol
- Cymdeithas sy'n cael ei rhwydweithio'n gynyddol a digideiddio gwasanaethau
Sut rydyn ni'n mesur ein perfformiad?
Yn ystod 2021, rydym yn bwriadu cynnal adolygiad pellach o'n cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol, fel rhan o asesiad ehangach o'r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r uchelgeisiau a nodwyd yn ein Cynllun Blynyddol 2019-20. Bydd yr asesiad hwn yn helpu i lywio cynnwys ein Cynllun Blynyddol 2022-23 ac egluro ein gweledigaeth strategol ar gyfer Archwilio Cymru am y pum mlynedd nesaf.