Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yr Archwilydd Cyffredinol yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf
Heddiw mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyflwyno Cynllun Blynyddol Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22. Wrth i'r sector cyhoeddus yng Nghymru barhau i fynd i'r afael ag effaith COVID-19, mae'r ddogfen hon yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf.
Mae archwilio’n chwarae rhan hanfodol o ran rhoi'r wybodaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, gwleidyddion, llunwyr penderfyniadau a dylanwadwyr ynglŷn â pha mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yn y dyddiau anghyffredin hyn wrth i ni weld pwysau enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, lefelau uchel o risg ac ansicrwydd, a chynnydd sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Bydd ein rhaglen gwaith archwilio yn adlewyrchu hyn.
Yn y gorffennol, rydym wedi nodi pedair uchelgais eang sy'n disgrifio'r llwybr yr ydym yn ei gymryd tuag at gyrraedd ein llawn botensial fel sbardun newid a gwelliant sydd wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus. Yn y Cynllun hwn, rydym wedi crynhoi'r prif ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y ffordd y gwnaethom gyflawni'r uchelgeisiau hyn a chyflawni ein rhaglenni gwaith dros y flwyddyn nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys effeithiau pandemig COVID-19, goblygiadau Brexit, yr argyfwng hinsawdd cyhoeddedig, heriau economaidd-gymdeithasol, a digideiddio mwy o wasanaethau.
Mewn ymateb, rydym wedi nodi sawl maes ffocws ar gyfer ein gwaith archwilio a'n gwaith o redeg y busnes yn 2021-22. Ochr yn ochr â'n dangosyddion perfformiad allweddol, bydd y cynnydd a wneir yn y meysydd hyn yn cael ei fonitro a'i graffu'n agos gan y Bwrdd a'r Tîm Arwain Gweithredol trwy gydol y flwyddyn.
O’n hymgysylltiad trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld sut mae cyrff sector cyhoeddus wedi ymateb i her y pandemig. Mae cydweithwyr ar draws y gwasanaeth cyhoeddus wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol i gadw gwasanaethau i fynd ac i gadw pobl Cymru yn ddiogel. Ar ran Archwilio Cymru, hoffem fynegi ein diolch a'n hedmygedd parhaus o’r ymdrech a'r ymrwymiad anhygoel hwn. Er bod cyflwyno'r rhaglen frechu yn rhoi gobaith i ni am rywfaint o oleuni ar ben draw’r twnnel, rydym yn ymwybodol bod y pwysau sydd ar hyn o bryd yn eithafol a bod yn rhaid blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen. Felly, mae dull Archwilio Cymru yn 2021-22 yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol mewn ffyrdd sy'n sensitif i'r pwysau sydd ar wasanaethau. Byddwn yn cadw rhywfaint o hyblygrwydd yn ein rhaglenni gwaith 2021-22 er mwyn galluogi hyn ac er mwyn caniatáu i ni ymateb i ddatblygiadau.
Mae ein hadnoddau ein hunain wedi cael eu hymestyn dros y 12 mis diwethaf, gan fod staff wedi gweithio’n gyfan gwbl o bell tra’n jyglo effaith y pandemig a gofynion gofalu, addysgu gartref, a chyfrifoldebau eraill. Rydym yn ddyledus i holl staff Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb, eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus trwy'r dyddiau heriol hyn. Yn 2021-22, byddwn yn adolygu ein dulliau cyflawni a'n methodolegau. Wrth lunio ffordd newydd o weithio ar gyfer y dyfodol, byddwn yn adeiladu ar yr addasiadau a amlinellwyd yn ein Hadroddiad Interim diweddar, er mwyn dal a chadw rhai o'r newidiadau cadarnhaol a welwyd gennym yn ystod y pandemig.
Mae'r Cynllun Blynyddol hwn yn cwmpasu'r cyfnod 1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2022. Mae'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am ein huchelgeisiau tymor hwy a'n dangosyddion perfformiad allweddol. Fe’i paratowyd ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru yn unol â gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Mae ein Cynllun Blynyddol yn amlinellu’n blaenoriaethau a'n rhaglenni gwaith arfaethedig ar gyfer y 12 mis nesaf, ar gyfer ein gwaith archwilio a'n gwaith o redeg y busnes.
Ein pedair uchelgais, fel y'u nodwyd gyntaf yn ein Cynllun Blynyddol 2019-20, yw:
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol sector cyhoeddus datganoledig Cymru. Mae'n gyfrifol am archwiliad blynyddol mwyafrif yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £21 biliwn o gronfeydd y mae Senedd Cymru yn pleidleisio arnynt yn flynyddol. Mae elfennau o'r cyllid hwn yn cael eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol o'r pwys mwyaf. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth Senedd na llywodraeth Cymru.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol, ynghylch arfer ei swyddogaethau.
Archwilio Cymru yw'r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.