Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Darn o waith ar y cyd rhwng swyddfeydd archwilio cyhoeddus pedair gwlad y DU – Archwilio yr Alban, Archwilio Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon – yw’r adroddiad hwn ac fe’i lluniwyd ag ymgysylltiad gan bob priod lywodraeth neu weinyddiaeth.
Mae’n nodi deddfwriaeth, polisi, strategaeth, trefniadau llywodraethu a monitro Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig sy’n berthnasol i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net.
Mae sawl nod i’r gwaith yma:
Mae newid hinsawdd yn un o heriau diffiniol ein cenhedlaeth. Rhaid i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig weithredu ar y cyd i gyflawni eu hamcan i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ledled y DU i ‘sero net’ erbyn 2050. Mae’r pwerau y mae eu hangen i wneud hyn yn nwylo Llywodraeth y DU (pwerau a gedwir) a llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (pwerau datganoledig). Wrth fwrw golwg ledled y DU, rydym wedi adnabod pedair thema allweddol.
Mae gan y pedair gwlad broffiliau allyriadau gwahanol a dulliau amrywiol o gyflawni sero net, ond yn y pen draw rhaid i’r dewisiadau a wnânt gyflawni sero net ar lefel y DU. O ystyried y gwahanol dargedau sero net, cyllidebau carbon a pholisïau ar draws y gwledydd, bydd cyfleoedd i’r llywodraethau ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae cyflawni sero net mewn unrhyw wlad unigol yn dibynnu ar weithredu ar lefel y DU, ac mae’r un peth yn wir fel arall hefyd. Bydd perthnasoedd gweithio effeithiol ac ymgysylltu clos rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn hollbwysig i gyrraedd y nod o ran sero net ar y cyfan.