Canfu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd fethiannau difrifol mewn trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol yng Nghyngor Cymuned Harlech.
Canfu’r adroddiad hefyd fod y methiant i ddilyn proses briodol a herio cais am daliad yn y modd priodol wedi arwain at golled o £9,000 i’r Cyngor.
Gall Cynghorau Cymuned eraill ledled Cymru ddysgu o hyn. Wrth i fancio electronig ddod yn fwy arferol, mae angen iddynt fod â phrosesau seiberddiogelwch cadarn.