Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn helpu i atal a chanfod twyll trwy rannu a pharu setiau o ddata yn electronig.

    Cyd-destun

    Rydym yn arwain y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru dan bwerau’r Archwilydd Cyffredinol yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn cael ei goruchwylio gan Awdurdod Twyll Sector Cyhoeddus y DU.

    Mae’r adroddiad hwn yn cyfeirio at bob un o ymarferion y Fenter Twyll Genedlaethol yn seiliedig ar y flwyddyn ariannol pan gafodd ei lansio – mae’r adroddiad diweddar hwn yn bwrw golwg ar ymarfer 2022-23. 

    Canfyddiadau allweddol

    Mae twyll a gwallau gyda thaliadau gwerth £7.1 miliwn wedi cael eu hadnabod gan ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru. Daw 97% o’r rhain o bariadau data awdurdodau lleol sy’n ymwneud â’r dreth gyngor, budd-dal tai, bathodynnau glas, rhestrau aros ar gyfer tai, a phensiynau.

    Mae llwyddiant y Fenter Twyll Genedlaethol yn dibynnu ar ba mor dda y mae sefydliadau sy’n cyfranogi’n asesu ac yn adolygu pariadau data, ac yna’n cofnodi’r deilliannau. Mae rhai cyrff yn gwneud gwaith da ar hyn, ond ceir anghysonderau mewn trefniadau dilynol lleol, yn ogystal ag amrywiadau mewn deilliannau rhwng cyfranogwyr tebyg.

    Mae’r deilliannau cronnus i Gymru bellach yn £56.5 miliwn ers i’r fenter ddechrau ym 1996. Ledled y DU, mae deilliannau cronnus y Fenter Twyll Genedlaethol bellach yn £2.9 biliwn.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    £7.1 miliwn o dwyll a gwallau gyda thaliadau wedi’u hadnabod gan ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru

    Gweld mwy
CAPTCHA