Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

£7.1 miliwn o dwyll a gwallau gyda thaliadau wedi’u hadnabod gan ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru

24 Hydref 2024
  • Fodd bynnag, mae effaith yr ymarfer yn dibynnu’n fawr ar barodrwydd sefydliadau sy’n cyfranogi i fuddsoddi amser ac ymdrech i asesu ac adolygu pariadau data’n effeithiol.

    Ymarfer atal twyll ledled y DU a gynhelir bob dwy flynedd yw’r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI), sy’n helpu i atal a chanfod twyll trwy rannu a pharu setiau o ddata yn electronig. Ar gyfer Cymru, cymerodd 49 o sefydliadau ran yn yr ymarfer diweddaraf.

    Mae’r deilliannau i Gymru o Fenter Twyll Genedlaethol 2022-23 £0.6 miliwn yn fwy nag yn 2020-21, sydd i’w briodoli’n bennaf i gynnydd yn nifer yr hawliadau twyllodrus neu wallus am fudd-dal tai a disgownt person sengl y dreth gyngor. Fodd bynnag, mae gostyngiadau mewn meysydd eraill, megis gostyngiad yn y bathodynnau glas a gafodd eu canslo, yn gwrthbwyso’r codiadau hyn yn rhannol.

    O’r £7.1 miliwn o ddeilliannau yr adroddwyd arnynt, mae 97% o bariadau data awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig â’r dreth gyngor, budd-dal tai, bathodynnau glas, rhestrau aros ar gyfer tai, a phensiynau.

    Mae llwyddiant y Fenter Twyll Genedlaethol yn dibynnu ar ba mor dda y mae cyrff sy’n cyfranogi’n asesu ac yn adolygu pariadau data, ac yna’n cofnodi’r deilliannau. Mae rhai cyrff yn gwneud gwaith da ar hyn, ond mae ein hadolygiad ni o adroddiadau paru data’n amlygu anghysonderau mewn trefniadau dilynol lleol a rhai amrywiadau mawr mewn deilliannau rhwng cyfranogwyr tebyg.

    Yn ogystal ag adnabod, adfer ac atal colled ariannol, mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn dwyn manteision ansoddol ehangach. Gall ddarparu sicrwydd ynghylch, ac adnabod cyfleoedd i wella, effeithiolrwydd prosesau a gweithdrefnau ariannol a gweinyddol eraill.

    Er na fydd yr holl gyfranogwyr yn gweld deilliannau cadarnhaol sylweddol eu hunain o anghenraid, un o fanteision allweddol ymarfer paru data ledled y DU gyfan yw ei fod yn ei gwneud yn bosibl paru data rhwng cyrff ac ar draws ffiniau gwledydd. Fe wnaeth data a ddarparwyd gan gyfranogwyr yng Nghymru ar gyfer Menter Twyll Genedlaethol 2022-23 helpu cyrff cyhoeddus y tu allan i Gymru i adnabod deilliannau gwerth £0.2 miliwn. Yn yr un modd, mae data gan gyfranogwyr eraill yn y DU wedi helpu i adnabod deilliannau yng Nghymru.

    Rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd i godi proffil a chynyddu cwmpas a sylw’r Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i waith dadansoddeg twyll.

    ,
    Rwyf wedi dweud yn flaenorol, er bod y drafodaeth am gyllid cyhoeddus yn aml yn canolbwyntio ar doriadau i wariant a/neu godi trethi, nad oes rhyw lawer yn cael ei ddweud am dwyll a gwall. Eto mae’n dal i fod yn falltod ar wasanaethau cyhoeddus. Mae gwireddu manteision y Fenter Twyll Genedlaethol yn dibynnu ar barodrwydd cyrff sy’n cyfranogi i fuddsoddi amser ac ymdrech i asesu ac adolygu pariadau data’n effeithiol. Mae meintioli’r effaith ar y cyfan hefyd yn dibynnu ar waith gan gyrff i gofnodi eu deilliannau. Er bod y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn dangos ymrwymiad cryf i'r Fenter Twyll Genedlaethol, rwy’n dal i bryderu nad felly y mae hi bob amser. Wrth i gylch nesaf y Fenter Twyll Genedlaethol gael ei gyflwyno, bydd staff Archwilio Cymru’n cynyddu eu hymgysylltiad â chyrff sy’n cyfranogi i godi ymwybyddiaeth, hybu cyfranogiad gweithredol, a deall yn well sut y mae cyrff yn asesu ac yn adolygu pariadau. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru 2022-23

    View more