Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol

14 June 2016
  • Roedd y seminarau hyn yn edrych ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn datblygu’r sgiliau a’r diwylliant cywir er mwyn mudo o wasanaethau analog i rai digidol.

    Cynhaliom y seminar hon mewn partneriaeth gydag Arfer Da Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac Y Lab.
     
    Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dynesu at gyfnod newydd yn y ffordd maent yn darparu gwasanaethau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am newidiadau mawr yn y ffordd rydym yn cynllunio a darparu gwasanaethau, tra bod technoleg wedi newid yn llwyr yr amgylchedd cymdeithasol yr ydym yn gweithio ynddo.
     
    Hwn oedd y seminar cyntaf mewn cyfres ar y thema o ddarparu gwasanaeth digidol. Roedd y seminar hon yn rhannu sut mae sefydliadau wedi rhoi sylfaen i’r gwaith ac adnabod yr angen am newid mewn diwylliant cyn mynd ati i drawsnewid gwasanaethau. Mae’n debygol fod y dalent angenrheidiol o fewn sefydliadau cyhoeddus yno yn barod, ond mae hierarchaeth sefydliadau yn aml yn gwahanu gwybodaeth ac awdurdod wrth wneud penderfyniadau. Roedd y seminar hon yn rhannu’r dulliau gwahanol o oresgyn y rhwystrau hyn.
     
    Yr hyn a gaiff mynychwyr o’r digwyddiad oedd dealltwriaeth o sut i gael y dalent cywir a’r swyddogion â’r awdurdod priodol o gwmpas bwrdd i weithio ar y cyd ar gyfer gwell gwasanaethau cyhoeddus.

    Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer

    Datblygom personas gyfer y seminar hon gyda Y Lab, sy’n seiliedig ar eu gwaith ar y Gronfa Arloesedd Digidol. Roedd mynychwyr yn:
    • Staff, aelodau etholedig ac aelodau anweithredol oedd am weld eu staff yn ymwneud â gweledigaeth ac arweiniad y sefydliad
    • Staff oedd am weld eu gwasanaethau yn fwy ystwyth ac ymatebol i anghenion defnyddwyr
    • Staff oedd yn gweithio a draws ffiniau sefydliadau cyhoeddus
    • Staff oedd yn chwilio am ddulliau cyflymach a mwy effeithiol ar gyfer nifer o wasanaethau y mae’r cyngor yn eu darparu
    • Staff oedd yn edrych ar sut gall ddiwygiad digidol arwain at arbedion ac effeithlonrwydd
    • Pobl oedd yn gwneud penderfyniadau ac ymgysylltu gyda’r bobl sydd yn gwybod sut mae trawsnewid yn ddigidol, a’u cefnogi gyda’r lefel priodol o fuddsoddiad.
    Gofynnwyd i Brif Weithredwr neu arweinwyr i ddod a bobl sydd yn teimlo’n rhwystredig gyda’r systemau a ddefnyddir a’r ffordd y gwneir pethau yn eich sefydliad.

    Cyflwyniadau

    1. Cynnwys Aelodau Etholedig mewn dull gweithredu digidol [PDF 483.91KB Agorir mewn ffenest newydd] - Y Cynghorydd Barry Parsons a Carl Haggerty, Cyngor Sir Dyfnaint
    2. Cael staff i ymrwymo i lwyfannau digidol [PDF 1.17MB Agorir mewn ffenest newydd] - Olwen Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    3. Beth sydd angen i chi eu hystyried wrth symud i Ddigidol - Rohan Gye, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

    Cyfryngau cymdeithasol

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details