Creu Cymunedau Cydnerth

24 Gorffennaf 2018
  • #WAOResilient18 Hoffech chi’r cyfle i glywed mwy am amrywiaeth o brosiectau sy'n ceisio annog cymunedau o bob math i ddod yn fwy cydnerth?

    Mae Cymru gydnerth yn un o saith nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'r term cymunedau cydnerth wedi dod yn thema gyffredin dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond beth mae hyn wir yn ei olygu? Beth yw cymuned a sut mae'n dod yn gydnerth?

    Mae Cymru yn cynnwys cymunedau amrywiol sydd ag amrywiaeth o nodweddion. Pan fyddwn yn sôn am y gair ‘cymuned’ rydym yn golygu ystyr ehangaf y gair sef grŵp sy'n rhannu nodweddion neu ddiddordebau cyffredin ac sy'n cael ei ystyried neu sy'n ystyried ei hun yn wahanol i ryw raddau i'r gymdeithas ehangach y mae'n rhan ohoni. Nid yw'n ymwneud â daearyddiaeth yn unig.

    Mae cydnerthedd cymuned yn ymwneud â grymuso unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i wneud y canlynol:

    • gweithredu ar y cyd i gynyddu eu cydnerthedd eu hunain a chydnerthedd eraill;
    • dod ynghyd i nodi a chefnogi unigolion sy'n agored i niwed;
    • cymryd cyfrifoldeb am hyrwyddo cydnerthedd unigolion a busnesau.

    Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae nifer y cymunedau sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am anghenion eu cymunedau penodol ac sy'n gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu. Gall llawer o'r elfennau sy'n gwneud grŵp cymunedol llwyddiannus gael eu defnyddio, eu rhannu ag eraill a'u haddasu ar gyfer cymunedau eraill. Teimlwn mai dyma'r amser cywir i ddechrau rhannu'r hyn a ddysgir fel y gall y ddau barti gael budd. Os hoffech helpu i greu cymuned fwy cydnerth, dyma'r seminar i chi.

    Mae’r seminar hon yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru ac Arfer Da Cymru.

    Ar gyfer pwy mae'r seminar

    Mae'r seminar hon ar gyfer:

    • Swyddogion sy'n gyfrifol am ailddylunio gwasanaethau
    • Swyddogion mewn gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio gyda chymunedau
    • Grwpiau cymunedol sy'n gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus

    Ble a phryd

    9am - 1pm
    Dydd Iau 11 Hydref 2018
    Stadiwm Swalec, Caerdydd, CF11 9XR

    9am - 1pm
    Dydd Iau 18 Hydref 2018
    Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy LL26 0DF

    Cofrestru

    Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn ar Get Invited [agorir mewn ffenest newydd]

    Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details