Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Gwnaeth cynadleddwyr adael gyda dealltwriaeth o fanteision a phwysigrwydd croesawu cwynion a dysgu ganddynt er budd eu sefydliad yn y pen draw.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cwynion a phryderon ynglŷn â gwasanaethau datganoledig yng Nghymru.
Yn dilyn cyflwyno ffioedd am ddod â hawliadau gerbron Tribiwnlysoedd Cyflogaeth, mae nifer yr hawliadau a gyflwynir gan gyflogeion wedi lleihau'n sylweddol, ac o ganlyniad mae cwynion gan staff, neu achwynion i fod yn fwy cywir, yn defnyddio mwy o adnoddau sefydliadol i ddelio â nhw.
Fel arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus, byddwch yn ymwybodol o'r newid sylweddol y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi'i wynebu, ac y maent yn parhau i'w wynebu dros y blynyddoedd sydd i ddod. Ymhlith y rhain mae heriau amgylcheddol o ran y boblogaeth a newid yn yr hinsawdd, newidiadau mewn technoleg, a gostyngiadau parhaus mewn gwariant cyhoeddus. Mae angen i Wasanaethau Cyhoeddus hefyd ddelio â newidiadau sylweddol mewn deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a'r Bil Llywodraeth Leol arfaethedig. Bydd pwysau aruthrol ar adnoddau ac ni ellir tanamcangyfrif effaith hyn.
Yn ystod y fath newid, bydd arweinwyr yn wynebu penderfyniadau anodd na chânt eu gweld yn yr un modd bob amser gan aelodau o'r cyhoedd ac, yn wir, staff mewnol. Mae'n ddealladwy felly y gall anfodlonrwydd gael ei gyfleu neu y gall pryderon gael eu codi.
Roedd y seminar hon yn canolbwyntio ar sut y gall sefydliadau baratoi ar gyfer y cyfnodau heriol sydd o'u blaenau, ac annog arweinwyr i feddwl am ddiwylliant ac ymddygiadau o fewn eu sefydliadau – a yw staff wedi'u grymuso i ymgysylltu ag achwynwyr yn gadarnhaol? A yw eich staff a'ch defnyddwyr gwasanaethau yn teimlo bod ganddynt lais a bod pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif? A yw aelodau’r Bwrdd yn ymgysylltu â data ynglŷn â chwynion ac yn eu herio, ac a ydynt yn ceisio tystiolaeth bod gwelliannau wedi cael eu cyflwyno mewn achosion lle bu'r broses o ddarparu gwasanaethau yn wael?
Cafodd y seminar hon ei hanelu at staff sector cyhoeddus a thrydydd sector yn y swyddi canlynol: