Data Agored
28 June 2016
-
Edrychodd y Google Hangout yma ar sut y gall Data Agored helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth cysylltiedig, agored ac effeithiol.
Data agored yw data y gall unrhyw un cael mynediad ato, ei ddefnyddio neu ei rannu. Pan rannai gwmnïau mawr neu lywodraethau ddata amhersonol, mae’n galluogi dinasyddion, busnesau bach a gwasanaethau cyhoeddus i wneud gwelliannau i’w cymunedau.Mae gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn golygu y bydd yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda’i gilydd ar draws sectorau i ddarparu gwasanaeth gwell i bobl. Gall Data Agored alluogi proses well o rannu data ar draws sefydliadau ac ardaloedd daearyddol.Fe wnaeth y weminar trafod:- Beth yw Data Agored
- Sut y gallwn wneud data yn agored
- Y buddion sylweddol
- Y camau nesaf
Trwy mynychu’r digwyddiad, cafodd mynychwyr gwell ddealltwriaeth o Ddata Agored a sut y gall gynyddu tryloywder, rhoi grym i bobl a magu arloesedd.At bwy oedd yr Hangout wedi’i hanelu?
Roedd y Hangout yma wedi’i hanelu at reolwyr y sector gyhoeddus a’r trydydd sector a swyddogion yn y meysydd canlynol:- Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Penaethiaid Gwasanaethau
- Arweinwyr Diogelu’r Cyhoedd
- Uwch-swyddogion Risg Gwybodaeth
Cyfryngau cymdeithasol