Shared Learning Seminar
Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar les

Rydym ni yn cynnal seminar am ddim gyda Nesta ac Arfer Da Cymru ar ddyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar les.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae llawer o’n parciau’n wynebu dyfodol ansicr, ac mae’r gwaith o’u rheoli a’u cynnal a’u cadw dan fygythiad. Bydd y seminar hon yn edrych ar yr heriau presennol ac yn dangos yr arloesi sydd eisoes yn cael effaith. Bydd pawb a fydd yn bresennol yn gadael gyda syniadau am sut mae defnyddio’r ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer arloesi a sut mae sicrhau bod parciau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Loteri Fawr wedi llwyddo i gefnogi’r gwaith o adfer ac adfywio sawl rhan o’r DU yn ystod y degawd diwethaf. Mae Nesta wedi ymuno yn awr â’r ddau sefydliad i gynnig rhaglen newydd gyffrous o arloesi mewn parciau.    

Mae arnom angen gweledigaeth newydd ar gyfer sut i reoli parciau mewn ffordd wahanol, a sut gallant rymuso cymunedau a bod yn gynaliadwy. Mae’n amser ail-greu parciau.

At bwy mae'r digwyddiad wedi ei anelu

Mae’r seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gyfrifol am y canlynol:

  • Llywodraeth Leol 
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Iechyd
  • Gofal cymdeithasol
  • Tai     
  • Awdurdodau tân a heddlu      
  • Llywodraeth Ganolog
  • Arolygiaethau  
  • Mentrau cymdeithasol / grwpiau cymunedol

Cyflwyniadau

  1. Parciau ym mhob cwr o'r byd [PDF 3.6MB Agorir mewn ffenest newydd] - Lydia Ragoonanan, Nesta
  2. Mynd i'r Parc - Mabwysiadu technegau permaddiwylliant ac ecolegol [PDF 5.7MB Agorir mewn ffenest newydd] - Simon Goff, Cyngor Burnley
  3. Cefnogi ein parciau - Technolegau cyfrannu digidol [PDF 3MB Agorir mewn ffenest newydd] - Michael Rowland, Cyngor Bwrdeistref Bournemouth
  4. Cyllidir Cydweithfa Bwyd Meddygon Teulu Lambeth: model ar gyfer byw'n iach [PDF 900KB Agorir mewn ffenest newydd] - Ed Rosen, Cyllidir Cydweithfa Bwydd Meddygon Teulu Lambeth
  5. Coed Actif Cymru - Gwella iechyd yn y coetir [PDF 8.2MB Agorir mewn ffenest newydd] - Kate Hamilton a Amie Andrews, Coed Actif Cymru

Cyfryngau cymdeithasol

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan