Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddf fydd yn rhoi dyletswydd datblygu cynaliadwy newydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, ynghylch cyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2011-2016, 'Mae cynaliadwyedd wrth wraidd agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru; hefyd mae wrth wraidd y rhaglen ddeddfwriaethol hon'.
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn deddfu ar ddatblygu cynaliadwy ar gyfer:
Mae'r Mesur Datblygu Cynaliadwy a gynigwyd yn anelu i gryfhau'r ymrwymiad a'i gosodwyd allan yn 'Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned' drwy ei newid i fod yn gyfrifoldeb cyfreithiol. Bydd hyn yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus i:
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad ydyw eisiau dull 'ticio bocsys' ar gyfer cydymffurfio, na chwaith ydyw eisiau ychwanegu baich diangen at fiwrocratiaeth.
Mae'r cynigion yn cynnwys rôl craffu i Archwilydd Cyffredinol Cymru a gall gynnwys cyfrifoldeb i gyflawni arholiadau datblygu cynaliadwy.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod goblygiadau sylfaenol y cynigion yma, megis 'gwerth am arian, gwneud penderfyniadau strategol mewn gweinyddiaeth gyhoeddus ac i archwiliadau cyhoeddus. Ar 25ain Hydref trefnodd Swyddfa Archwilio Cymru sesiwn briffio i staff er mwyn codi ymwybyddiaeth ar y ddeddf sydd ar ddod ac i roi cyfle i drafod y goblygiadau. Mynychodd Archwilydd Cyffredinol Cymru'r sesiwn, ynghyd â thua 50 o staff yng Nghaerdydd ac Ewlo yn Abertawe drwy gynhadledd fideo.
Prif siaradwyr y digwyddiad oedd Rhodri Asby o Lywodraeth Cymru a Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy i Gymru. Rhoddodd Rhodri Asby ddiweddariad ar gynnydd drafftio'r Papur Gwyn, sy'n bwnc ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd. Ewch manylion am yr ymgynghoriad [Agorir mewn ffenest newydd].
Amlinellodd Peter Davies y cynigion ar gyfer corff datblygu cynaliadwy a phwysleisiodd bwysigrwydd datblygu perthynas weithio agos â Swyddfa Archwilio Cymru.