Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer gwell iechyd a lles

12 Awst 2016
  • Roedd y seminar hon ynghylch sut mae angen i wasanaethau cyhoeddus gydweithio'n well er mwyn galluogi, cefnogi a gwella lles dinasyddion Cymru. 

    Roedd egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn sail i hyn.

    Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru'n parhau i wynebu heriau sylweddol, a bydd hyn yn parhau yn y dyfodol rhagweladwy. Y ffaith yw ein bod ni i gyd yn wynebu adegau heriol ac nid oes gan yr un sefydliad yr atebion. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio deddfwriaeth newydd, cydweithio mwy â sefydliadau eraill, mabwysiadu diwylliannau gwahanol a dysgu, gallwn nodi ffyrdd o ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym mewn ffyrdd gwahanol iawn.

    Wrth adael y seminar hon, roedd gan y cynrychiolwyr yr adnoddau a'r wybodaeth er mwyn eu helpu i oresgyn y rhwystrau rhag cydweithio llwyddiannus. Rhoddwyd y cyfle i'r cynrychiolwyr ddatblygu rhwydwaith rhithwir o gydweithwyr unfryd a fydd yn gallu cynnig cefnogaeth ac arweiniad sy'n seiliedig ar eu profiad o gyflwyno gwelliannau gwasanaeth trwy gydweithio yn ei ystyr ehangach.

    Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer

    Roedd y seminar hon i'r holl sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector yng Nghymru ac, yn benodol, i uwch reolwyr a rheolwyr canol yn y meysydd canlynol:

    • llywodraeth leol - Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Addysg
    • iechyd
    • comisiynwyr heddlu a throsedd a heddluoedd
    • awdurdodau tân ac achub
    • mentrau cymdeithasol
    • awdurdodau parciau cenedlaethol
    • cyrff y llywodraeth ganolog.

    Cyflwyniadau

    1. Darparu cymorth yn y gymuned - Cydgysylltu'n Lleol [PDF 1.2MB Agorir mewn ffenest newydd] - Jane Tonks, Dinas a Sir Abertawe 
    2. Cynllun Tai Gwasgaredig [PDF 1.5MB Agorir mewn ffenest newydd] - Sarah Wills/ Richard Bundy, Gofal, Helen Jones, Cyngor Bro Morgannwg a Dina Williams, Cymdeithas Tai Newydd 
    3. Tîm Cymorth Cymunedol [PDF 2.9MB Agorir mewn ffenest newydd] - Terry Williams, Kayleigh Harper a Nigel Roberts, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Mark Timmins, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 
    4. Gwneud i bob Cyswllt Gyfrif - Steve Davies, Conrad Hancock a Gary Slack Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
    5. Gweithio gyda chymunedau [PDF 4.1MB Agorir mewn ffenest newydd] - Pete Harrison, Artisans Collective CIC a Alexis Conn, Prestatyn Iach 

    Cyfryngau cymdeithasol

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details