Gweminar Gwireddu Buddiannau

21 Hydref 2016
  • Wrth adael y weminar hon, bydd gan unigolion ddealltwriaeth glir o'r llwybr/dull critigol y mae angen i unigolion ei ddilyn i'w galluogi i wireddu buddiannau eu Rhaglen.

    Mae Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwario miliynau o bunnoedd ar brosiectau na chânt fyth eu gorffen. Yn aml, nid oes a wnelo'r rheswm unrhyw beth ag ansawdd y targedau cyflawnadwy. Yn amlach na pheidio nid oes yr amser, yr egni na'r brwdfrydedd i wneud yn siŵr y caiff y cynnyrch neu'r gwasanaeth ei fabwysiadu a'i ymgorffori yn y sefydliad. Mae'n ymwneud â Thîm y Rhaglen a Rheoli Prosiect sydd wedi symud ymlaen i'r prosiect nesaf neu sydd wedi diddymu yn amlach na pheidio.

    Gyda'r Sefydliad Rheoli Prosiectau ac Arfer Da Cymru, cynaliasom weminar am ddim ar Wireddu Buddiannau, gan dynnu sylw at y gwaith ymchwil diweddaraf ledled Ewrop ar yr arferion diweddaraf o Ewrop a'r tu hwnt. Trwy rannu'r ymchwil hon, ystyriasom hefyd ystyr hyn o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

    Pwy ddylai fynychu’r seminar 

    Roedd y seminar hon i staff sector cyhoeddus a thrydydd sector yn y rolau canlynol:

    • Comisiynwyr Rhaglen;
    • Cyfarwyddwyr Rhaglen
    • Tîm Cyflawni Rhaglenni a Rheoli Prosiectau;
    • Rheolwyr Prosiect; ac
    • Aelodau o Bwyllgorau Archwilio

    Cyfryngau cymdeithasol

     

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details