Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Bydd y seminar hon yn edrych ar yr hyn y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud i gyfrannu at Gymru Fwy Cydradd.
Tocynnau (dolen allanol)
Mae Cymru Fwy Cydradd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru yn hanfodol ar gyfer creu canlyniadau gwell i bobl Cymru. Gan gydnabod bod anghydraddoldeb yn effeithio ar bawb ac yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar bobl ag ystod o nodweddion, nod y seminar hon fydd canolbwyntio ar beth all caffael, llywodraethiant, ymarferion cyflogaeth a'r ddarpariaeth o wasanaethau wneud i gyfrannu at ganlyniadau mwy cadarnhaol.
Mae'r seminar hwn yn fan cychwyn ar gyfer rhannu a chasglu gwybodaeth am y pwnc dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru. Gan iddi fod astudiaeth Cymru gyfan, nid yw’r ffocws wedi ei bennu eto – bydd yn dilyn yn gynnar yn y gwanwyn, gan adrodd yn 2021 gyda digwyddiad dilynol. Mae'r pwnc hwn yn cyffwrdd â'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a bydd felly'n berthnasol i holl wneuthurwyr polisi yn ogystal â'r rhai sy'n llunio gwasanaethau cyhoeddus ac yn ymgysylltu â nhw. Bydd hwn yn gyfle unigryw i glywed am yr hyn sydd ei angen i gyflawni Cymru Fwy Cydradd o wahanol safbwyntiau.
I gysylltu â’r tîm Cyfnewidfa Arfer Da, ebostiwch arfer.da@archwilio.cymru.
Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.