Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd yn ofynnol i lywodraeth leol, parciau cenedlaethol a chyrff tân a heddlu yng Nghymru gau eu cyfrifon yn gynharach.
Y llynedd, gwnaethom gynnal y gyntaf yn y gyfres hon o seminarau'n edrych ar gau cyfrifon yn gynnar a'r hyn y mae'n ei olygu i sefydliadau. Fel rhan o'r seminar honno, cafodd unigolion ddealltwriaeth o'r newidiadau diwylliannol a gweithdrefnol a gyflawnwyd gan eraill i'w galluogi i ddechrau ar y daith o newid y ffordd y maent yn gweithio.
Eleni, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Penfro wedi llunio eu cyfrifon, ac mae'r cyfrifon hynny wedi'u harchwilio cyn y terfynau amser statudol. Yn ystod y seminar hon, bydd y ddau gyngor yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu o'r broses ac yn rhoi cipolwg defnyddiol i'r sefydliadau sy'n bresennol, gan drafod yn arbennig yr heriau a'r llwyddiannau.
Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer
Roedd y seminar hon i staff mewn awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, a chyrff tân a heddlu yn y rolau canlynol:
- wyddog Adran 151 neu swyddog cyfatebol
- Prif Gyfrifydd
- Staff ariannol sy'n arwain y gwaith o lunio cyfrifon
Cyflwyniadau
- Beth yw ystyr papurau gwaith i archwilwyr [PDF 867KB Agorir mewn ffenest newydd]- Kate Havard, Swyddfa Archwilio Cymru
- Prisio eich Eiddo, Offer a Chyfarpar [PDF 747KB Agorir mewn ffenest newydd] - Jeremy Saunders a Deryck Evans, Swyddfa Archwilio Cymru
- Rhoi terfyn ar amcangyfrifon [PDF 944KB Agorir mewn ffenest newydd] - Matthew Edwards a Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru