Llywodraethu: Cefnogi gwelliant o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus cymhleth
16 Chwefror 2017
-
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, rydym yn cynnal cyfres o weminarau i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i wellau eu dulliau Llywodraethu.
Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi Papur Trafod: Heriau Llywodraethu a Ddaw yn Sgil Gwasanaethau a Ariennir yn Gyhoeddus ac a Ddarperir yn Anuniongyrchol yng Nghymru.
Mae'r papur trafod yn cydnabod bod Llywodraethu yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus. Mae'n sail i'r ffordd y caiff adnoddau eu rheoli, y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud, y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a'r effaith a gânt, nawr ac yn y dyfodol. Mae hefyd yn trwytho'r ffordd y caiff sefydliadau eu harwain a'r ffordd y maent yn rhyngweithio â'r cyhoedd.
Rhaid i systemau llywodraethu fod yn gadarn ond rhaid iddynt hefyd fod yn gymesur. Mae sefydliadau sydd wedi'u llywodraethu'n dda yn ddynamig ac yn cymryd risgiau wedi'u rheoli'n dda; nid ydynt yn ddi-fynd nac yn fiwrocrataidd.
Yr oedd y wemiar gyntaf yn canolbwyntio ar ddulliau ynghylch cydweithio a phartneriaeth o ran llywodraethu.
At bwy cafodd y gweminar ei hanelu
Yr oedd y seminar ar gyfer staff sector cyhoeddus a’r trydydd sector fel a ganyln:
• llunwyr polisi Cymru
• ymarferwyr gwasanaethau cyhoeddus
• academyddion llywodraethu
• yn ogystal â'r rhai sy'n goruchwylio, yn darparu ac yn derbyn gwasanaethau a ariennir yn gyhoeddus ac a ddarperir yn anuniongyrchol yng Nghymru.Cyfryngau cymdeithasol