Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yn y seminar hon, caiff enghreifftiau eu rhannu o'r ffyrdd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty sy'n sicrhau canlyniadau gwell i unigolion.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus gydweithio er mwyn darparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru. Er bod gofynion y deddfau hyn yn gymharol newydd, mae sefydliadau eisoes sy'n cydweithio er mwyn darparu gwasanaethau mewn ffyrdd newydd a gwahanol.
Mae adroddiadau diweddar wedi dod â phrosesau rhyddhau o'r ysbyty i sylw'r cyhoedd ac wedi tynnu sylw at yr effaith y mae oedi wrth ryddhau cleifion yn ei chael ar eu canlyniadau, yn ogystal â phwrs y wlad. Cydnabyddir yn eang bod aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd ei angen yn niweidiol i ganlyniadau tymor hwy cleifion. Mae cydweithio er mwyn helpu unigolion i symud ymlaen i'w cam gofal nesaf yn gwella'r canlyniadau hynny a gall helpu i sicrhau nad ydynt yn dychwelyd i'r ysbyty yn ddiangen, sy'n fuddiol i'r unigolion a'r gwasanaethau.
Bydd y seminar hon, sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Arfer Da Cymru [agorir mewn ffenest newydd] a Cydffederasiwn GIG Cymru [agorir mewn ffenest newydd], yn rhoi'r cyfle i'r rhai a fydd yn bresennol glywed am ddulliau amrywiol sefydliadau a sectorau gwahanol o gydweithio er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd gwell i ddinasyddion Cymru.
Mae'r seminar hon ar gyfer: