Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yn dilyn ein gweminar diwethaf, bydd y nesaf yn y gyfres ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn symud trywydd y sgwrs tuag at y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dull rhyngweithiol o ddelio â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Edrychodd gweminar Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod y llynedd [Agorir mewn ffenest newydd] ar elfennau allweddol ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, gan bwysleisio gwybodaeth, ymwybyddiaeth ac ymddygiad. Byddwn yn trafod y materion hyn ymhellach ynghyd â thrafod sut i’w cymhwyso.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor adroddiad [Agorir PDF mewn ffenest newydd] ar sut y gall ffynonellau cadernid gan unigolion a chymunedau ddiogelu'r pobl sy'n dioddef o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod rhag eu heffeithiau niweidiol ar iechyd meddwl.
A ydych yn gwneud y gorau o'r hyn rydych yn ei wneud ar hyn o bryd? Dysgwch beth yw dulliau sy'n cael eu llywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a thrawma, a sut y gallwch ddefnyddio hyn yn eich gwaith. Aseswch yr hyn rydych yn ei wneud yn barod a'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei drafod. Bydd cyfle i fyfyrio a gofyn cwestiynau i'r panel am bethau rydych yn cael trafferth â nhw.
Mae'r weminar hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â chynllunio, comisiynu, a/neu ddarparu gwasanaethau rheng flaen.
12pm – 1:30pm
Dydd Mawrth 12 Mehefin 2018
I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein isod.
Cylchredir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth drefnu lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
Os ydych yn bwriadu gwrando ar y weminar gyda chydweithwyr, rhowch eu henwau i ni fel y gallwn gofnodi presenoldeb yn gywir.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru